MRS. HANNAH HUMPHREYS, 36 LANSING STREET, UTICA, NEW YORK.

Medi 10fed, 1882, yn 79 mlwydd a 4 mis oed, Hannah, priod Hugh H. Humphreys, 36 Lansing Street, Utica, ar ôl cystudd o tua pythefnos, dan y dysentery. Yr oedd yn ddynes a fawr berchid gan bawb oedd yn ei hadnabod; ac yr oedd yn aelod ffyddlon gyda'r T. C.

Merch ydoedd i Robert Griffith, Pen-yr-yrfa, Llanllyfnl. Daeth i America yn 1831; ac ar ôl bod yn aros am ddwy flyneddyn yn New York, un yn Pennsylvania, a dwy yn Utica, ymunodd mewn priodas â Hugh H. Humphreys, yr hwn sydd wedi ei adael yn weddw, ac mewn gwth o oedran. Buont yn trigianu yn Deerfield tua 40 mlynedd, yn ôl; wedi hyny yn Peny-graig, yna yn Holland Patent (am 16 mlynedd), nes y symudasant i Utica 16 mlynedd yn ôl, lle y mae iddynt un ferch (Mrs. David Williams) yn byw.

Cafodd Mrs. Humphreys angladd parchus y dydd Morcher canlynol, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. W. A. Jones a W. B. Joseph. Gellir dweyd fod Hugh H. Humphreys yn frawd i John Humphreys, Ysw., West Bangor, Pennsylvania.

Y Drych ~ Medi 21ain 1882.


MRS. HANNAH HUMPHREYS, 36 LANSING STREET, UTICA, NEW YORK.

Medi 10fed, 1882, yn 79 mlwydd oed, ar foreu Sabboth, yn ninas Utica, New York, hunodd yn dawel yn yr Iesu y wraig grefyddol ac anwyl uchod, yr hon a fu yn ymgeledd gymwys i'w phriod, Mr. Hugh H. Humphreys, am oddeutu 46 mlynedd.

Merch ydoedd i Robert a Margaret Griffiths Talysarn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd ei thad yn flaenor ffyddlon a defnyddiol yn yr un eglwys a'r diweddar Barch. John Jones; ac yr oedd y ddau, yr esgob a'r diacon, yn gyfeillion anwyl a hoff, ac yn cydweithio yn heddychol a'u gilydd yn mhob trafodaeth er llwyddiant yr achos goreu.

Ganwyd Mrs. Humphreys yn y flwyddyn 1803, ac ymfudodd i'r Unol Dalaethau yn 1831, pan yn ferch ieuanc deunaw mlwydd oed. Arosodd yn ninas New York am ddwy flynedd; yna symudodd i dref Ebensburgh, Pennsylvania; ac o fewn cylch ei harosiad yma, ymunodd ag eglwys y Cynulleidfaolion, o dan fugeiliaeth y Parch. George Roberts, brawd i'r Parch. John Roberts, Llanbrynmair, Gogledd Cymru. Addawodd ei bugail, ar ei chais, roddí iddi lythyr cymeradwyaeth at ryw eglwys perthynol i'r M. C., os byddai iddi ymadael oddiyno i ryw drefedigaeth arall.

Yn mhen y flwyddyn, ymadawodd oddiyno, gan fyned i Utica, New York. Wedi dyfod yno, ymunodd trwy lythyr oddiwrth y Parch. George Roberts ag eglwys y M. C; ac ar y 25ain o Chwefror, 1836, ymunodd mewn glân briodas â Mr. Hugh H. Humphreys, brawd i Mr. John Humphreys, West Bangor, Pennsylvania. Bu iddynt ddau o blant, mab a merch. Bu y mab farw yn ei fabandod; ond y mae y ferch yn fyw, ac yn briod â Mr. David H. Williams, ac y mae hi a'i phriod mewn amgylchiadau cysurus, ac yn aelodau dichlynaidd a ffyddlon yn eglwys y Cynulleidfaolion yn y ddinas hon; a chyda hwy y lletya Mr. Humphreys yn awr, o dan ofal tyner ei anwyl ferch.

Ryw bryd yn y flwyddyn 1836, cymerodd Mr. Humphreys a'i briod fferm, o dan ardreth, yn Deerfield, ger Utica; ac yn y flwyddyn 1841, prynasant fferm, yr hon a elwid Farm White. Wedi aros yno am tua thair blynedd, gwerthasant hi, a symudasant i fferm yn agos i gapel Penygraig, Swydd Oneida; ac wedi aros yno am bum' mlynedd, ymfudasant i blwyf Steuben am ysbaid dwy flyneddd; wedi hyny prynasant fferm yn agos i Holland Patent, ac wedi aros yno amryw flynyddoedd symudasant i Utica. Yn yr holl symudiadau a'r arosiadau hyn, yr oedd Mrs Humphreys yn cyflawni ei dyledswyddau yn mhob cysylltiad gyda ffyddlondeb a deheurwydd canmoladwy.

Yn y flwyddyn 1866, prynasant dy a lot ar Lansing Street, Utica, New York, ac yno bu Mrs. Humphreys farw ar y dydd a nodwyd uchod, gan ymadael ar foreu Sabboth i fwynhau "Sabboth tragywyddol gyda'r Oen."

Fel gwraig yr oedd yn serchog, gofalus, a darbodus, gan gyflawni ei dyledswyddau gyda diwydrwydd a manyldra, gwarchod gartref yn ddyfal, gwylied dros yr eiddo, a gofalu ar fod pawb yn gwneyd yr hyn a berthynai iddynt yn deilwng. Fel mam, yr oedd yn ddoeth, tyner, a gwyliadwrus yn ei holl drafodaeth gyda ei hunig a'i hanwyl ferch, gan ei hyfforddi yn egwyddorion crefydd, rhinwedd a moesgarwch. Y mae y ffrwythau a flagurant ar Mrs. Williams yn brofion prydferth o ffyddlondeb ei rhieni, yn enwedig ei mam.

Fel cymydoges, yr oedd yn dawel, heddychol, a diabsen. Ffieiddiai enllib ac athrod, ac arddangosai ei hanfoddlonrwydd pan y gwelai arwyddion o genfigen, malais, ac anfaddeugarwch. Siaradai bob amser bron, ys dywedir, "y gair garwaf yn mlaen." Yr oedd hyn yn arwydd o'i gonestrwydd a'i chywirdeb. Fel Cristion, yr oedd yn egwyddorol, dichlynaidd, diargyhoedd, a ffyddlon, gan wir ofalu am gynaliaeth achos yr Arglwydd. Ymgyngorai y ddau a'u gilydd gyda golwg ar eu cyfraniadau eglwysig, a diau eu bod wedi penderfynu rhoddi $100 at gapel newydd y M. C. yn Utica, yr hyn a wnaeth Mr. Humphreys yn ddiweddar. Yn y flwyddyn 1878 cafodd anffawd i'w throed, trwy ei losgi. Ymaflodd y crydcymalau yn ei choes, yr hyn a'i hanalluogodd i ddilyn moddion gras yn gyson, ac yr oedd hyn yn ofid i'w meddwl. Pan yn gallu myned i'r addoliad weithiau yn yr haf, yr oedd yn mwynhau y gwasanaeth gyda hyfrydwch a blas neillduol. Yr oedd ynffond iawn o ganu - canai wrth wneyd pob peth. Y penillion a hoffai ganu oeddynt— "Hen iachawdwriaeth glir," "Y mae hiraeth ar fy ysbryd am fwynhau yr hyfryd wlad," "Nid oes yno gofio beiau," "Os gwelir fi bechadur." Yr wythnos cyn i'r clefyd, o'r hwn y bu farw, ymaflyd ynddi, yr oedd yn canu yn barhaus; ac yn awr mae yn canu caniad newydd - "Cân Moses, a chân yr Oen" - ar fynydd Seion. Yn ei hafiechyd yr oedd yn foddlon, tawel, ac ymostyngol i ewyllys ei Harglwydd, yr hyn, yn ddiau, oedd yn effaith sancteiddiad yr Ysbryd. Y gair diweddaf a ddywedodd ddydd Sadwrn, yn hollol ddigyffro a hamddenol, ydoedd, "Yr wyf fi yn myned i farw," a boreu dranoeth ehedodd ei hysbryd i "wlad o hedd, tu draw i'r bedd, Nad oes ond y saint a'i medd."

Mae iddi chwaer yn Nghymru o'r enw Lowry Jones, Snowdon View Nantlle, Sir Gaernarfon. Dydd Mercher, y 13eg o Fedi, hebryngwyd yr hyn oedd farwol o honi i'r 'ty rhagderfynedig i bob dyn byw." Gan fod ei bugail, Dr. Roberts, oddi cartref, gweinyddwyd ar yr achlysur pruddaidd gan y Parchn. William A. Jones a Watkin B. Joseph. Cynalier a dyddaner ei phriod yn ei henaint hyd nes delo ei gyfnewidiad, ac y caffo gyd fwynhai â'i anwyl Hannah lawenydd ei Arglwydd.
W. R.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1883.