MRS. CATHERINE JONES, ROCK HILL, WISCONSIN.

Tachwedd 25ain, 1882, yn Rock Hill, Wisconsin, Catherine, anwyl briod Mr. Enoch Jones, yn 68 mlwydd a 6 mis oed. Genedigol oedd o Llandrillo, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, a merch i Morris ac Elizabeth Hough. Ganol dydd y 24ain cafodd ei tharo gan y parlys mud, fel na allodd lefaru ond ychydig eiriau wrthym, a pharhaodd mewn math o drwmgwsg hyd naw boreu dranoeth, pryd yr ehedodd ei henaid yn dawel at Dduw yr hwn a'i rhoes - i'r wlad lle na ddywed yr un, Claf ydwyf, fel y mae genym sail i gredu.
Ei mab hiraethus— J. E. JONES.

Y Drych ~ Chwefror 8fed, 1883.