MRS. ELIZABETH JONES, INDEPENDENCE HOSPITAL, IOWA.
Mawrth 7fed, 1882, yn ysbytty Independence. Iowa, Mrs. Elizabeth Jones, priod Griffith B. Jones, gynt o Tanygrisiau, Ffestiniog. Daethant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1869, gan sefydlu yn Bristol Grove, Minnesota; wedi hyny am y chwe mlynedd diweddaf yn Lime Spring, Iowa.Merch oedd i John a Jane Williams, Bron-barlwyd, Tanygrisiau, ac mae ei mam yn fyw i alaru ar ei hol, yn 88 mlwydd oed, sef chwaer i'r diweddar William J. Williams, Blissville, Vermont. Mae iddi berthnasau tua Vermont yn byw yn bresenol.
Fel pawb o'i blaen, profodd Mrs. Jones fod ei thaith yn fer a llawn o helbul. Bu yn fam i wyth o blant, a gwelodd eu claddu oll ond un. Bu yn ymgynal o dan gorff afiach iawn am yr ugain mlynedd diweddaf, er i feddygon goreu y wlad weini arni. Y gwanwyn diweddaf aeth i'r ysbytty a chafodd lawer o les, a daeth adref yn mhen y mis, a phawb yn gobeithio ei bod wedi ei hadferyd; ond dechreu y gauaf aeth yn waeth ac effeithiodd y rhyddni a'r afreoleidd-dra yn y gwaed er dyrysu ei meddwl drachefn; ac wedi myned i'r ysbytty y tro hwn, bu farw yn mhen dwy wythnos, er holl allu a dyfais y meddygon goreu, pan yn 46 mlwydd oed.
Yr oedd yn ei chymeriad amryw linellau gwerth eu cofio a theilwng o efelychiad. Yr oedd yn un hynod ddiwyd, serchus, garedig ac elusengar; ac yr oedd wedi chwilio a thrysori i'w chof lawer o'r ysgrythyrau. Cafodd y fraint o broffesu Iesu Grist pan yn ieuanc, a bu yn ffyddlon iawn hyd y diwedd. Ofnai y glyn a'r byd mawr ysbrydol, ond gobeithiai a gweddiau am drugaredd, a'r geiriau diweddaf a gafodd ei phriod ganddi oedd:
"Af yn mlaen, gan waeddi pechais,
Af a chwympaf wrth ei draed,"
Claddwyd hi y dydd Mawrth canlynol yn Pleasant Hill Cemetery, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. John D. Williams, B. Isaac ac O. R. Morris. Heddwch i'w llwch hyd ganiad yr udgorn diweddaf, a thangnefedd i'w merch a'i phriod galarus.
T. P. R.