MR. JOHN JONES, IOWA HILL, PLACER COUNTY, CALIFORNIA.

Gorphenaf 8fed, 1882, yn Iowa Hill, Placer County, California, yn 37 mlwydd oed, o'r darfodedigaeth, John Jones, saer, diweddar o Pittsburgh, Pennsylvania., mab i Richard a Grace Jones, South Penrallt, Carnarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd yn aelod o gymdeithas y "Workingmen," a'r dydd canlynol ymgynullodd tyrfa luosog i dalu y gymwynas olaf i'r hyn oedd farwol o hono, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Johnson, a swyddogion y gymdeithas, dan arolyglaeth y rhai y cymerai yr angladd le.

Yr oedd yr ymadawedig ym ddyn tawel, ac yn cael ei fawr hoffi gan bawb a'i hadwaenai. Dyoddefodd fisoedd o gystudd trwm yn dawel. Gadawodd briod a dau fachgen bychan i alaru ar ei ôl. Tad yr amddifaid a Barnwr y weddw fyddo yn llon'd ei addewid iddynt yn eu profedigaeth.
J. H. THOMAS.

Y Drych ~ Gorphenaf 27ain 1882.