MRS. MARGARET JONES, MINERAL RIDGE, OHIO.

Tachwedd 8fed, 1882, yn Mineral Ridge, Ohio, Margaret Jones, wed cyraedd yr oedran teg o 74 mlwydd. Genedigol oedd o Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Symudodd ei rhieni o Sir Gaernarfon i Llanfaethlu, yn Sir Fon pan Oedd Margaret yn dra ieuanc, ac yn Llanfaethlu y dygwyd i fyny. Wedi dyfod i oedran aeth yn wasanaethferch i Manchester, Lloegr. ac oddiyno yn ôl i Caergybl, lle yr ymunodd mewn priodas ag Evan Jones.

Ymfudasant i'r wlad hon yn 1851. Yn 1855 ymsefydlasant ar Mineral Ridge, lle y bu farw ei gŵr Evan Jones rhyw saith mlynedd yn ôl. Rai blynyddau yn ôl cafodd Mrs Jones ergyd o'r parlys, yr hyn a afeithiodd yn drwm arni, yn nelliduol ar ei chof; ac ychydig o wythnosau yn ôl ymosododd yr un afiechyd arni eilwaith, pryd y dechreuodd waelu yn parhaus, nes ar haner dydd, Tachwedd 7fed, yr ehedodd y rhan anfarwol o honi i wlad yr haner dydd tragywyddol. Ar y 10fed ymgynullodd tyrfa fawr yn nghyd i dalu'r gymwynas olaf i'r ymadawedig, pryd y pregethwyd yn y tŷ yn Gymraeg gan y Parch. Theophilus Davies (A.) oddiar 1 Tim. 1. 15 testyn ag yr oedd hi wedi dewis i fod yn sylfaan ychydig nodiadau ar ddydd ei hangladd, Pregethwyd yn Saesneg gan y Parch. Henry, Niles, gweinidog Eglwys y Dysgyblion. Wedi myned drwy y gwasanaeth, hebryngwyd y gweddillion i'r gladdfa berthynol i gapel y Bedyddwyr, lle ei gosodwyd i orwedd hyd udganiad yr udgorn.

Yr unig berthynasau sydd ganddi yn yr ardal hon ydyw nai a nith, yr hon a fu yn ffyddlon i'w modryb hyd yr awr ddiweddaf. Cafodd law drom ganddi, oblegid nid oedd yr ymadawedlg er's llawer o amser yn gallu gwneyd dim drosti ei hun; ond er cymaint oedd y gwaith, nid oedd un aberth yn rhy fawr i'w wneyd er lliniaru poenau ei modryb. Tad yr amddifad fyddo yn amddiffyn i'r hon sydd wedi ei gadael yn unig ac yn amddifad iawn.

Pan yn ysgrifenu y lllnellau hyn, cefais ar ddeall fod brawd i'r hon sydd wedi ei gadael ya amddifad (Winefred Owens) wedl marw yn ddisymwth yn Lerpwl, yr hyn sydd yn ychwanegu at ei gofid. Duw o'i ras a'i cynalio ac a'i nertho, ac a'i gwobrwyo.

Y Drych ~ Tachwedd 23ain, 1882.