MR. RICHARD JONES, CHICAGO, ILLINOIS.
Ebrill 6ed, 1882, yn Chicago, Illinois, yn 36 mlwydd oed, ar ôl byr gystudd, ond caled, Mr. Richard Jones, mab i Mr. William Jones, Ty'r Capel, Llwyngwril, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, lle mae ei anwyl dad yn byw yn bresenol, ac wedi rhoddi iddynt oll esiampl dda. Mae un brawd i'r ymadawedlg yn South Chicago, a chefnder iddo yn Racine, a dau frawd yn Rome, New York.Cafodd gladdedigaeth barchus gan ei frawd a'i gefnder, a lluaws o'i hen gyfeillion, a'r boneddwr R. Griffiths, roofer, gyda'r hwn yr oedd Mr. Jones yn gweithio.
Claddwyd ef yn Graceland Cemetery ar y 7fed, a gweinyddwyd yn yr angladd gan yr ysgrifenydd, a dyma ydyw y llais wrthym ninau y byw - "Byddwch barod, canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn." Bendithied yr Arglwydd yr amgylchiad hwn i'r dyben, medd yr eiddoch mewn cydymdeimlad,
D. HARRIES.