MR. WILLIAM R. JONES, 73 COURT STREET, UTICA, NEW YORK.
Hydref 21ain, 1882 yn 61 mlwydd a 10 mis oed, Mr. William R. Jones, 73 Court Street, Utica, New York.Gof ydoedd wrth ei alwedigaetb; a daeth i'r wlad hon o Sir Feirionydd tua 32 mlynedd yn ôl. Bu yn nychu am dair neu bedair blynedd, ond dyoddefodd ei gystudd caled yn dawel a dirwgnach. Yr oedd yn Gristion da, yn aelod gyda'r T. C. ac yn un a fawr berchid gan bawb oedd yn ei adnabod. Gadawodd wraig i alaru ar ei ôl.
Claddwyd ef y dydd Mawrth canlynol yn Holland Patent, lle y bu yn trigfanu am lawer o flynyddoedd cyn ei ddyfodiad i Utica.