MISS LIZZIE JANE LEWIS, RUSSELL GULCH, GILPIN COUNTY, COLORADO.

Chwefror 18fed, 1882, yn Russell Gulch. Gilpin County, Colorado, yn 13 mlwydd, l0 mis a 28 diwrnod oed, Miss Lizzie Jane Lewis, anwyl ferch Robert a Theodosia Lewis, y rhai a symudasant yma yr haf diweddaf o Cambria Wisconsin, i'r hwn le yr ymfudasant o Ffestiniog.

Cafodd gystudd maith ond nid trwm iawn hyd o fewn dwy wythnos i ddiwedd ei gyrfa, pryd yr ehedodd o fyd y gorthrymderau i'w chartref nefol. Ei chlefyd diweddaf oedd y typhoid fever, yr hwn a ddyoddefodd yn gwbl ddirwgnach.

Daeth â llythyr eglwyslg gyda hi yma o eglwys Annibynol Cambria; ac er na fu hi yma gyda ni yn hir, gellir dweyd ei bod wedi dangos ei chariad at y Gwaredwr mewn gwirionedd, a chreda pawb iddi fyned ato i fyw. Teimlir colled fawr ar ei hol yn y seiat, lle y byddai yn adrodd o dair i ddeg o adnodau fel pe buasai yn hen ddynes. Yr oedd yn ffyddlon yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn darllen ac esbonio yr ysgrythyrau fel un mewn oed, yn yr hyn yr oedd yn esiampl i blant America. Perthynai hefyd i'r Good Templars.

Cafodd gladdedigaeth lluosog dydd Llun yr 20fed, pryd yr oedd yr ysgol ddyddiol a'r Good Templars wedi troi allan yn orymdaith, er fod yr hin yn anffafriol. Gweinyddwyd yn y capel ac ar lan y bedd gan y Parch. W. D. Price, Idaho Springs, oddiwrth Preg. vi. 1, pryd y dangosodd fod dydd marwolaeth yn well na dydd genedigaeth i Lizzie, er fod y brofedigaeth yn un chwerw i'r teulu. Rhodded yr Arglwydd gymorth iddynt i ymdawelu.
R. O. HUGHES.

Y Drych ~ Mawrth 9fed, 1882.