MR. JOHN MORGAN. LOUISA COUNTY, IOWA.
MR. JOHN MORGAN, LONG CREEK, IOWA. Bu yr hen frawd uchod farw, Medi 21ain, 1883, yn nhy Mr. John Morgan, ei fab hynaf, lle yr oedd yn cartrefu, yn 87 mlwydd oed.Enwau ei rieni oeddynt, Jobn a Bety Morgan. Ganwyd a magwyd ef mewn tyddyn o'r enw Esgir Isaf, plwyf Penal, Sir Feirionydd, G. C, lle y bu gyda'i dad a'i fam hyd nes y tyfodd yn ddyn.
Ymunodd mewn priodas â Miss Catharine Evans, Cefn Cae; ac nid bur y buont wedi hyny cyn symud i Penal, ac oddiyno drachefn i le o'r enw Gwyn-breichiau.
Ymfudasant i'r wlad hon, Mai 1844, ac arosasant am chwe' mis yn ymyl Utica, N. Y. Cychwynasant oddiyno a'u gwynebau tua'r Gorllowin, gyda'r bwriad i ymsefydlu yn Wisconsin — ond nid eiddo gwr ei ffordd — felly, wedi myned mor bell a Newark, Ohio, buont yno am flwyddyn; ac yna myned i Wisconsin, fel yr oeddynt wedi bwriadu, i Long Creek, Iowa, yr aethant, lle y buont hyd nes myned i ffordd yr holl ddaear.
Bu Mrs. Morgan farw yn 1864, yn mhen tuag ugain mlynedd wedi dyfod o Gymru. Yr oedd hyn yn sicr o fod yn brofedigaeth i'w phriod. Gwelsant lawer o gyfyngderau, yn enwedig yn y blynyddau cyntaf, pryd yr oedd cyfleusderau o bob math yn llawer llai nag ydynt yn awr. Adroddai yr ymadawedig hanes yr amser hwnw gyda dyddordeb neillduol.
A gallwn grybwyll yn y fan hyn, fod ganddo gof anghyffredin, fel y medrai adrodd yn rhwydd brif ddygwyddiadau ei fywyd yn America. Yr oedd yn ysgolhaig da hefyd, yn ei oes ef. Ymddengys fod ei rieni yn awyddus i roi addysg idd eu plant, a gwnaeth John Morgan ddefnydd da o'r manteision a gafodd, fel y daeth yn uwch na'r cyffredin mewn dysg. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, acyn sylwedydd craff. Cadwai fath o ddydd-lyfr, yn yr bwn y cofnodai bob amgylchiad o bwys. Yr oedd yn gymydog caredig, ac yn hynod gymdeithasgar. Wedi iddo fethu gwneud dim arall, elai o gwmpas i weled ei gymydogion a'i gyfeillion, ac yr oedd yn dda gan bawb ei weled.
Cafodd Mr. Morgan brofedigaeth gref arall 14eg o flynyddau yn ol, trwy gladdu merch, gwraig; Mr John Rees, yr hwn, gyda'i blant sydd yn byw yn yr ardal, yn y mwynhad o gyflawnder o bethau y byd hwn. Nid oes ond tri o blant yr ymadawedig yn fyw yn bresenol, sef dau fab, John ac Evan, ac un ferch, sef Ann, gwraig Mr. Edward Davies, y rhai ydynt i gyd, gyda'u teuluoedd, yn y gymydogaeth bon, yn yr amgylchiadau mwyaf cysurus. Yr oedd yr hen dad yn grefyddol ers dros 50 o flynyddau. Derbyniwyd ef gyda'r Wesleyaid, ond gan nad oedd yr enwad hwnw yn gyfleus iddo yma, ymunodd â'r eglwys Gynulleidfaol yn y lle hwn, a pharbaodd yn aelod ffyddlon o honi hyd y diwedd. Fel Cristion, yr oedd yn sefydlog.