MR. ISAAC OWEN, GRANITE, BALTIMORE COUNTY, MARYLAND.

Mawrth 31ain, 1882, yn Granite, Baltimore County, Maryland, Isaac Owen, yn 42 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Tyno, yn agos i Towyn, Meirionydd, Gogledd Cymru.

Symudodd i'r wlad hon 14 mlynedd i Medi nesaf, gyda phriod a dau o blant, o Gwmcroesor, Gogledd Cymru a sefydlodd yn Fairhaven, Vermont, lle yr oedd yn adnabyddus i lawer o Gymry.

Ymadawodd oddiyno i'r lle hwn, lle y cyfarfyddodd â marwolaeth ddisymwth trwy i gareg fawr syrthio arno yn y lofa, gan wasgu ei ranau isaf, yr hyn a achosodd ei farwolaeth yn mhen dau ddiwrnod. Dyoddefodd y cwbl yn hynod o dawel.

Yr oedd yn Gristion gloew yn ôl tystiolaeth pawb a'i hadwaenai. Yr oedd wedi ei ordeinio yn elder yn y Presbyterian Church dair wythnos cyn ei farwolaeth.

Claddwyd ef wrth ochr y capel yr oedd yn perthyn iddo, mewn mynwent newydd a brynwyd at y capel. Pregethwyd gan y Parch. Mr. Williams, gweinidog y Presbyteriaid, oddiar y geiriau "Y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw." Yr oedd yntau yn marw o farwolaeth y cyfiawn. Pan y deallodd fod yn rhaid iddo farw, galwodd ar ei ddau blentyn i ganu "The Judgment day is coming." Mae ei deulu yn teimlo eu bod wedi oolli priod ffyddlon a thad tyner a gofalus. Heddwch i'w lwch.
EVAN OWEN.

Y Drych ~ Ebrill 20fed, 1882.