MR. WILLIAM OWEN, COLUMBUS, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Mr. William Owen, of Randolph, a gentleman over 80 years of age, was knocked down and over by a passing team, in that village, a week or two since, and received injuries from which he died, on Monday of last week.The heartless driver of the team drove rapidly on without trying to render any assistance to the victim of his carelessness, and public opinion is very severe on him for his cruelty.
Mr. Owen was an old resident of the place and was highly respected. His funeral took place at Bethel church, near thius city, on Thursday, the 12th instant, and his remains found a resting place where he had requested previous to his death, in the little churchyard near by.
Columbus Democrat ~ 21st October, 1882.
MR. WILLIAM OWEN, RANDOLPH, WISCONSIN.
Y mae cofiantau wedi myned yn bethau mor gyffredin, fel mai peth anhawdd yw galw sylw at gymeriadau fyd i yn wir deilwng; ond gallwn sicrhau fod yr hen frawd sydd yn wrthrych ein sylw yn awr yn deilwng o well cofiant nag a ellir wneyd mewn gofod fechan o gyhoeddiad misol neu wythnosol. Rhaid i mi ddweyd i ddechrau (yn ôl yr arferiad) pwy ydoedd.Mab ydoedd i Hugh a Jane Owens, Gwridog Isaf, Llanwnda, ger Caernarfon, Gogledd Cymru. Ganwyd ef Medi 21ain, 1800. Priododd Mehefin 30ain, 1835, â Catherine, merch John a Margery Owens, Cae Goronwy, o'r un plwyf a'r uchod. Bu hi farw yn Columbus, Wisconsin, Ionawr 12fed, 1865. Bu ein brawd fyw tra yn Nghymru gyda'i rieni. Daeth ef a'i deulu, ei rieni, a'i frawd Richard Owens a'i deulu, i America, ac i Columbus, Wisconsin, yn ngwanwyn 1845, ac yr oeddynt yn rhai o'r Cymry cyntaf ddaeth i'r ardal.
Prynodd dyddyn o dir y Llywodraeth, ac a'i galwodd Penyclip. Ymladdodd ag anfanteision gwlad newydd mor egniol a nemawr neb, a chododd i fyny deulu lluosog yn hapus. Bu ganddynt naw o blant, o'r rhai y mae saith yn fyw ac ar wasgar o Chicago i Leadville. Ymddengys ddarfod iddo symud o ardal Columbus i Proscairon tua'r flwyddyn 1871. Bu yn Proscairon tua thair blynedd, ac am bedair blynedd wedi hyny yn ardal Blaenycae gyda'i ferch a'i fab-yn nghyfraith, y Parch. John Daniels. Treuliodd y pedair blynedd olaf yn Randolph, gyda'i fab Hugh Owens a'i wraig.
Y modd y cyfarfyddidd a'i farwoiaeth. - Nos Sadwrn, Medi 30ain, 1882, pan yn croesi yr heol i fyned i'r post office gyrodd Eilmyn ei gerbyd dau geffyl ar ei draws - tarawyd ef nes oedd yn cael ei luchio o flaen y ceffylau. Cariwyd ef i stor gerllaw, a chaed meddyg ato yn fuan, a defnyddiwyd pob moddion er ei wellhad; ond yr oll yn ofer, bu farw yr ail dydd Llun a chladdwyd ef y dydd Iau canlynol. Gwnaed post mortem examination ar ei gorff, a chaed allan fod asgwrn ei frest a'i asenau wedi eu dryllio, ac wedi niweidio ei ranau tu mewnol yn enbyd, fel yr oedd yn syndod i'r meddygon ddarfod iddo allu byw cyhyd ar ôl el daraw.
Claddwyd et yn mynwent Bethel, Columbus, ac aeth lluaws o Randolph i hebrwng ei weddillion i Columbus, a daeth lluaws o ardal Columbus at y capel i'w cyfarfod. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Thomas Foulkes, John J. Roberts a Richard Griffiths. Gwnaed ychydig sylwadau cyn cychwyn o Randolph gan y Parch Thomas B Jones.