MR. WILLIAM J. OWEN, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Medi 1af, 1882, yn Remsen, Swydd Oneida, New York, bu farw Mr. William J. Owen, wedi cyrhaedd yr oedran mawr o 81 mlwydd a naw mis oed.Yr oedd Mr. Owen yn frodor o Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru ac yn fab i'r henadur parchus Mr. James Owen, Penycaerau gynt, yr hwn oedd yn adnabyddus iawn yn y cylchoedd hyn yn nglyn a dechreuad Methodistiaeth. Daeth Mr. Owen gyda'i rieni i'r wlad hon yn y flwyddyn 1818. Ymsefydlasant i ddechreu ar fferm yn mhlwyf Trenton; ond yn fuan wedi hyny ymgymerodd gwrthddrych ein cofiant a dysgu gwaith tanner, gyda M. Marther Beecher, yn Remsen. Daeth yn mlaen mor lwyddianus yn ei alwedigaeth fel ag y penodwyd ef yn fuan yn arolygydd y gwaith.
Ychydig o flynyddoedd wedi hyny penderfynodd ddechreu busnes ar ei gyfrifoldeb ei hunan. Adeiladodd dannery yn Steuben, ond llosgwyd hono i lawr yn mhen ychydig amser. Drwy hyn collodd yr hyn oll a feddai, ond heb ddigaloni penderfynodd godi adeilad arall; ac o'r pryd hwnw allan cariodd yn mlaen waith eang a masnach lwyddianus iawn.
Tra yn Remsen yn y flwyddyn 1824, Mawrth 9fed, ymbriododd gyda Margaret Pierce merch y parchedig William G. Pierce, Steuben, yr hon fu farw yn Remsen ddeg mlynedd yn ôl. Ganwyd iddynt wyth o blant - tri o feibion a phump o ferched, sef Mr. James Owen, y mab hynaf, yr hwn fu farw Mehefin 5ed. 1880, yn Utica, Mr. William Owen, Remsen, Mr. John Owen, New York, Mrs. Francis, Remsen, a'r ddwy chwaer, Miss Sarah a Miss Lydia Owen, y rhai oeddynt gartref yn gofalu am eu tad hyd ei farwolaeth.
Yn 1861 symudodd y teulu i Remsen i fyw, lle y treuliodd Mr. Owen weddill ei oes. Pan yn byw yn Steuben ymunodd ef a'i briod, a'i ferch, Mrs Roberts, gyda'u gilydd ag eglwys M. C. y Nant. Byddai cyn hyny yn mynychu moddion gras, yn cyfranu yn haelionus at gynal achos crefydd, ac hefyd yn gofalu bod rhai o'i weithwyr bob dydd yn cynal yr addoliad teuluaidd yn y teulu. Ac wedi iddo ymgysylltu a'r eglwys nodweddid ef bob amser gan sel a ffyddlondeb. Yr oedd yn ffyddlon gyda phob rhan o waith yr Arglwydd, yn ei ddyledswyddau personol a chyhoeddus. Darllenai lawer ar y Beibl, a gweddiai lawer yn y dirgel. Hyn yn ddiameu oedd dirgelwch ei ffydd gref, ei brofiad gloew, a'i ymarweddiad dichlynaidd. Wedi iddo symud i Remsen dewiswyd ef yn Ysgrifenydd yr eglwys, yr hon swydd a lanwodd gyda boddlonrwydd cyffredinol am flynyddoedd lawer. Yr oedd yn fanwl ac yn drefnus gyda'i holl gofnodau. Yr oedd yn fanwl yn nghylch cadw y Sabboth a pharchu cysegr Duw. Ymdrechai fod yn gyson yn mhob moddion o ras, a gofalai am fod yn y capel mewn pryd bob amser. Sabboth Nadolig diweddaf ymdrechai yn ngwyneb llesgedd mawr, i fyned i'r capel fel arfer, gan ddyweyd mai hwnw hwyrach fyddai y tro olaf; ac felly y bu. Yr oedd ei le yn wag yn y capel wedi hyny. Cwynai lawer o herwydd methu myned i'r capel fel arferol.
Cafodd fwynhau bywyd hirfaith, a chafodd ei fendithio a graddau helaeth o lwyddiant a chysuron y bywyd hwn. Bu yn gwaelu yn raddol am rai blynyddoedd, ond gallai fyned o amgylch yn y tŷ, ac allan yn awr ac eilwaith, hyd yr wythnosau olaf o'i fywyd. Dyoddefodd lawer yn ddystaw ac yn ddirwgnach dan effaith poenau ac afiechyd, ond yr oedd ei feddwl yn glir, a'i brofiad yn loew hyd y diwedd. Gorphenodd ei yrfa mewn tawelwch ac mewn llawn hyder ffydd yn y Gwaredwr.
Bu y ddwy ferch adref yn gofalu am dano yn ffyddlon yn ei waeledd drwy y blynyddoedd ac yn y diwedd yr oedd y teulu oll adref, ac yn gwneyd eu goreu i weini pob cysur ac ymgeledd iddo; ond efe a hunodd yn yr Iesu, er galar mawr i'w deulu lluosog a pharchus, ond er elw mawr iddo ef ei hun. Yr oedd yn gallu dweyd yn hyderus fod ei "fywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw." "Efe a â i dangnefedd." "Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd, a hyny a geisiaf," Pethau crefydd oedd testynau ei fyfyrdod. Yr oedd yn amlwg fod ei feddwl yn cartrefu gyda gwirioneddau yr efengyl, ac fod ei enaid yn aeddfedu i wlad well.
Yr oedd Mr. Owen yn ddyn a berchid yn fawr gan gylch eang o berthynasau a chyfeillion. Yr oedd yn wrthddrych serch a gofal teulu lluosog a pharchus. Telid gwarogaeth iddo hefyd fel henafgwr parchus o deulu enwog a henafol, ond yn fwy na'r cwbl yr oedd ei fywyd a'i gymeriad dysglaer yn hawlio sylw a pharch gan bawb a'i hadwaenai. Yr oedd yn ddyn diwyd ac ymdrechgar, a thrwy hyny yn llwyddianns i raddau helaeth. Byddai yn syml a dirodres heb ymroddi i rwysg ac ymddangosiad; cymydog da a chymwynasgar, parod i estyn cynorthwy mewn cyfyngder neu dlodi. Fel dinesydd, cymerai ddyddordeb mawr yn symudiadau y wladwriaeth. Cefnogai bob peth fyddai yn tueddu i leshai ei gyd ddynion Parhâi felly hyd y diwedd. Hoffai wybod helyntion yr amseroedd, a diiyn yn mlaen gyda'r oes. Gyda chrefydd nodweddid ef gan weithgarwch a haelfrydedd, gan ffydd diffuant, a phrofiad gloew o waith gras ar ei galon.
Yr oedd ei enaid y blynyddoedd olaf yn addfedu mewn sancteiddrwydd a duwioldeb ac eneiniad nefolaidd yn nawseiddio ei ysbryd, ac yn gadael argraff ar ei fywyd a'i gymeriad. Yn ei gartref yr oedd yn lletygar a charedig, yn llawen ganddo groesawi cyfeillion a gweinidogion yr efengyl. Yr oedd yn hoff o'i gartref, ac yn hoff o'i deulu. Bu yn briod serchog a ffyddlawn, yn dad tyner a gofalus, yn ceisio llwyddiant a hapusrwydd ei deulu yn dymorol ac ysbrydol. Yr oedd yn gartref wedi ei gysegru gan serch, addysg, a gweddiau rhieni duwiol. A pharha yr adgofion am gynghorion pwyllog a'r weddi deuluaidd, yn felus yn mynwesau gweddill y teulu, ac yn neillduol y weddi deuluaidd olaf y Sabboth cyn ei farwolaeth. Golygfa darawiadol oedd gweled y teulu oll adref yn gryno, a'r tad dros bedwar ugain oed ar ei wely angau, am y tro olaf yn cyflwyno ei blant i ofal eu "Tad yr hwn sydd yn y nefoedd," gan daer ymbil am ei drugaredd, ei amddiffyn, a'r fendith i'w dilyn drwy eu bywyd. Hir gofir am yr amgylchiad, ac ni a hyderwn yr atebir ei thaer erfyniadau ar ran pob aelod o'r teulu.
Cymerodd y gladdedigeath le y dydd Llun canlynol, am un o'r gloch prydnawn. Yr oedd y Capel Ceryg yn orlawn o bobl wedi dyfod i dalu eu parch i'w goffadwriaeth ac i amlygu eu cydymdeimlad a'r teulu yn eu galar a'u profedigaeth. Darllenwyd y gwasanaeth crefyddol yn y capel gan y Parch. T Evans, Holland Patent; pregethwyd yn Gymraeg gan y Parch. Dr. Williams. oddiar Salm 27: 4, ac yn Saesneg gan y Parch. E. C Evans, oddiar Col. 3 : 3, 4, a diweddwyd yn Saesneg gan y Parch. J, H. Jones, Rome.
Wedi hyny hebryngwyd y corph i fynwent Fairchild, lle ei rhoddwyd i orwedd hyd foreu mawr yr adgyfodiad.
E C. EVANS.
Y Drych ~ Hydref 19eg, 1882.
MR. WILLIAM J. OWEN, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
I, William J. Owen of the village and town of remsen, in the County of Oneida and State of New York of the age of seventy four years and being of sound mind and memory do make, publish and declare this my last Will ans Testament in manner following, that is to say :First. I devise and order my just debts and funeral expenses be paid by the executors hereinafter named.
Second. I give and bequeath to my daughters sarah and Lydia, the dwelling house and lot on which it stands in the village of Remsen which I now occupy, jointly, that is the one undivided on half to each one together, with all the household furnituire of every name and nature in said house, together with the beds, bedding, stoves, wood, coal, finally everything that I may die possessed of, excepting and reserving therefrom all notes and bonds and mortgages, currency and all other evidences of debts due me or due to the estate at my decease.
Third. I give and bequeath to my said daughters Sarah and Lydia two ($2000) thousand dollars each in addition to the property contained in the above second item.
Fourth. I desire that the residue and balance of my estate both real and personal shall be divided equally between my eight children, share and share alike.
Fifth and Lastly. I hereby nominate and appoint my son James P. Owen, and my daughter Sarah Owen, Executors of this my last Will and Testament hereby revoking all former Wills by me made.
In witness whereof I have hereunto set my hand and seal this 28th day of June 1875.
Signed, sealed and declared by the said testator to be his last Will and Teastament in the presence of us, who signed our names at his request as witnesses in his presence and in the presence of each other.
Didymus Thomas Rwmsen Oneida County.
Richard Richards Remsen Oneida County.