MR. ISAAC OWENS, DODGEVILLE, WISCONSIN.
Bu farw Mai 2ail, 1882, yn Dodgeville, Wisconsin, yn 71 mlwydd oed, Mr. Isaac Owens.Daeth ef a'i briod i'r wlad hon yn y flwyddyn 1847, a sefydlasant yn Dodgeville. Eu cartref yn Nghymru ydoedd Llandudno, Gogledd Cymru. Oddeutu 25 mlynedd yn ôl aeth ef a'i briod i California i chwilio am y "llwch melyn." Wedi bod yno am dymor dychwelasant yn ôl. Taith byth gofiadwy oedd y daith yn ôl, oblegid buont mewn enbydrwydd mawr — aeth yn llongddrylliad arnynt, a chyrhaeddasant y lan ar ystyllod.
Wedi rhai blynyddau dychwelodd y ddau i Gymru, ond yr oeddynt wedi eu Hamericaneiddio gymaint fel nas gallasant fyw yn hir hyd yn nod yn awyrgylch bro eu genedigaeth. Dychwelasant eilwaith i Dodgeville, ac yma y bu ef hyd ei farwolaeth, ac yma y mae ei briod alarus eto. Nid oedd gwrthddrych y llinellau hyn wedi cael llawer o fanteision addysg pan yn ieuanc; ni chafodd ei fagu a'i feithrin yn eglwys Dduw; nid oedd fel Timotheus, "er yn fachgen yn gwybod yr Ysgrythyr lân;" ymdeimlai ar hyd ei oes oddiwrth y fagwraeth nychlyd (mewn ystyr grefyddol) a gafodd yn moreu ei fywyd.
Pan yn laslanc yn Llandudno, daeth yr "amser nodedig" i Dduw yn ei ras gymeryd trugaredd ar y llanc Isaac; ac yn y man, fel Paul gynt, nid ymgyngorodd â chig a gwaed, ond ymgysegrodd i wasanaeth yr Arglwydd, gan ofyn, "Pa beth a fyni di i mi ei wneuthur?" Nid rhyw wythnos gwas newydd fu hi gyda y brawd Owens ond parhaodd i fod yn weithiwr difefl yn ngwinllan ei Feistr ar hyd ei oes - gweithiwr heb ei ail ydoedd - nid oedd yn blino gweithi - nid gweithio by jerks, ond rhyw perpetual motion o weithiwr; nid rhyw glock pedair awr ar hugain o weithiwr, eisiau ei windio bob nos, rhag iddo sefyll. Na, pan y gwnaed Isaac Owens yn " greadur newydd yn Nghrist Iesu," weindiodd yr Ysbryd Glan ddigon arno y pryd hwnw i ddal i redeg fel gweithiwr heb sefyll hyd fachludiad haul ei einioes.
Gyda phriodoldeb y gellir galw gwrthddrych y cofiant hwn yn "gymeriad hynod" yn mhlith y M.C. yn America. Ni welodd y byd erioed ond un Isaac Owens. Yr oedd ei ddynoliaeth yn ddynoliaeth hollol ar ei phen ei hun; yr oedd ganddi ei beiau, ond eto yr oedd yn ddynoliaeth dda, yn meddu ar rinweddau lawer - yr oedd sirioldeb, tiriondeb, cymwynasgarwch, a chydymdeimlad yn ei haddurno. Ag Isaac Owens fel Cristion sydd a wnelom yn fwyaf arbenig yn y llinellau hyn. Yr oedd yn hynod fel Cristion. Crefydd oedd y "canolbwynt" yr oedd ei fywyd yn troi o'i amgylch. Yr oedd am i bawb a phobpeth dalu gwarogaeth i grefydd. Ni chaniatâi i segurdod, diofalwch, anffyddlondeb, amgylchiadau bydol, na chybydd-dod, eclipsio dim ar haul ei grefydd. Crefydd a chorph ac enaid iddi (yr allanol a'r ysbrydol), oedd ei grefydd ef; teimlai ei rwymedigaeth i ofalu am y naill a'r llall. Wrth ymgeleddu corph crefydd ni esgeulusai ei henaid; a phan yn rhoddi meithriniaeth i'w henaid, ni ollyngai dros gof yr angenrheidrwydd am i'r corph fod yn lân a thrwsiadus.
Nid oedd crefydd a lluaws o dalentau dysglaer wedi cydgyfarfod yn y brawd Owens; ond gwnaeth y defnydd goreu o'r hyn a dderbyniodd. Os un dalent a dderbyniodd, ni chuddiodd hi mewn napcyn, ond rhoddodd hi i'r bwrdd cyfnewid ; ac yn ddiddadl tystiolaeth ei Arglwydd am dano ydyw, "Da, was da a ffyddlon."
Yr oedd yn hynod am ei ffyddlondeb gyda, a'i brydlondeb yn, moddion gras. Yr oedd fel Saul, mab Cis, yn uwch oi ysgwyddau i fyny nag aelodau eglwysig cyffredin yn hyn. Os dygwyddai, o herwydd rhwystrau nad allai ef oddiwrthynt, iddo fod yn absenol o'r seiat, y cyfarfod gweddi, neu y bregeth, clywid y naill yn gofyn i'r llall wrth fyned allan, "Pa le yr oedd I. O heddyw? O! gymaint o aelodau eglwysig sydd i'w cael nad ydyw eu habsenoldeb o foddion gras yn esgor ar gymaint a chwestiwn, Pa le y mae hwn a hwn? Yr yd oedd yn hynod am ei barodrwydd i wneyd ei ran—i wneyd yr hyn a allai. Nid oedd eisiau colli eiliad o amser i ddysgwyl wrtho ef i wneyd yr hyn a geisid ganddo; nid ydys yn cofio gweled anufudd-dod yn cymeryd meddiant o'i ben ac yn ei ysgwyd, pan y gofynid iddo ddweyd gair yn y seiat, neu gymeryd rhan mewn moddion cyhoeddus. Yr ydoedd bob amser yn barod i ddweyd a gwneyd yr hyn oedd eisiau.
Nid ydys yn meddwl fod yr un gofyniad wedi disgyn i'r llawr dros wefusau yr un holwr ysgol, cyn iddo ef ei ddal ag atebiad. O bosibl na byddai yn gywir bob amser - pwy fydd yn iawn bob amser?
Yr oedd yn hynod yn ei unplygrwydd - dyn plaen iawn ydoedd; nid oedd arno ofn digio ei gyd-ddyn wrth ddweyd y gwir wrtho - ni byddai yn colli llawer o amser i naddu cornelau ei eiriau a'i frawddegau, er mwyn iddynt ddisgyn yn esmwyth ar fanau sensitive. Ymosodai yn wrol a di dderbyn wyneb ar bechodau, byddent hwy mewn "gwreng neu foneddig;" nid oedd ganddo ond un gwyneb-pryd, a byddai ef ei hunan i'w adnabod yn hwnw.
Yr oedd yn hynod mewn haelioni tuag at achosion teilwng; ei reol ydoedd cyfranu yn ôl fel y byddai y nefoedd yn ei lwyddo. Agorodd Rhagluniaeth ei llaw yn agored iawn iddo ddwy flynedd yn ôl; daeth y ffordd hai-arn heibio, a phenderfynwyd ar fod i'r orsaf fod ar ei dyddyn ef, a'r canlyniad oedd iddo gael pris uchel am gyfran o hono gan y Cwmni ; a gosododd y gweddill o'r tir allan yn lotiau, a gwerthodd hwynt am bris uchel. Gan fod Duw yn ei ragluniaeth wedi bod mor dda iddo, yr oedd yntau am gydnabod llaw yr Arglwydd yn cofio am dano yn ei hen ddyddiau. Cafodd fantais neillduol yn nechreu y flwyddyn hon i wneyd hyny. Yr oedd addoldy y "Corph" yn Dodgeviile yn hynod oedranus, yr olwg arno yn llwydaidd ac yn adfeiliedig. Penderfynwyd adeiladu addoldy newydd, ac Isaac Owens oedd y tanysgrifiwr cyntaf tuag ato, a chyfranodd yn anrhydeddus. Y mae y tŷ addoliad newydd erbyn hyn yn prysur gael ei adeiladu, ond y mae ei dy pridd ef yn prysur gael ei falurio gan bryfed y llwch. Yr ydoedd yn cymeryd dyddordeb anghyffredin yn adeiladaeth y capel newydd; yr oedd ei holl galon yn y gwaith. Yr ysgrifenydd ac yntau oeddynt wedi eu neillduo i'r swydd gasglyddol. Yr oedd yn awyddus iawn am weled y capel wedi ei orphen, ei agor, ac wedi talu am dano; ond yn hyn cafodd ef a ninau ein siomi; yn hollol ddisymwth ac annysgwyliadwy i bawb, cafodd angeu ganiatad i'w dori i lawr. Mawr yw ein colled a'n galar ar ei ôl. Wrth ei golli ef, collodd Methodistiaeth yn Dodgeville un o'i cholofnau cadarnaf - Duw a'n bendithio ag un tebyg iddo i lanw y gwagle.
Cafodd gladdedigaeth barchus; ymgasglodd torf fawr i hebrwng ei weddillion marwol i'r gladdfa. Yn unol a'i ddymuniad ef ei hun, yn hytrach na thraddodi pregeth angladdol iddo, yn ol yr arferiad cyffredin, ymffurfiodd plant yr Ysgol Sul yn orymdaith o flaen yr elor-gerbyd, i'w hebrwng i'r fynwent. Yr ydoedd bob amser yn cymeryd dyddordeb mawr yn y plant, a hwythau ynddo yntau. Heddwch i'w lwch, a dyddaned y Nefoedd ei weddw alarus.
WILLIAM CHARLES.