MR. OWEN OWENS, COLUMBUS, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
MR. OWEN OWENS, COEDMARION. Chwefror 15fed, 1882, bu farw Mr. O. Owens, diacon yn eglwys Salem, Columbus, Wisconsin, yn agos i 87 mlwydd oed - yr hyn a hebgor ceisio dyweyd beth oedd ei afiechyd. Yr oedd yn amser iddo wywo, medd hanes y byd; yr hyn a'n hadgofia ar yr un pryd, mai "cwbl wagedd yw pob dyn pan ar y goreu—ebrwydd y derfydd, fel chwedl." Yr oedd y cryd cymalau yn ei boeni er yn lled ieuanc, ac yr oedd yn gloff iawn er's blynyddau lawer. Yr oedd, ond hyny, ar y cyfan, yn bur iach ar hyd ei oes, hyd o fewn ychydig flynyddau i'r terfyn.Mab ydoedd i Owen a Mary Prichard, Penfras, ger Pwllheli, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Bu yn hwsmon yn Coedmarion, o fewn milldir i Gaernarfon, am ugain mlynedd (1826—1845), yn cymeryd holl ofal y fferm; a'i feistr, Cadben John Richard, yn byw yn Nghaernarfon. Priododd yn fall 1830 ag Ann Roberts, Caernarfon, a pharhaodd i fyw yn Coedmarion, fel cynt, am 14eg o flynyddoedd, hyd ei ddyfodiad gyda'i deulu i America, yn ngwanwyn y flwyddyn 1845. Bu am flwyddyn yn Steuben, Swydd Oneida, New York. Yna daeth i Wisconsin yn Mai, 1846, a phrynodd dir y llywodraeth yn ardal Salem, gan alw ei fferm yn "Coedmarion;" a chyn pen 36 mlynedd ymadawodd i'r nefoedd, i beidio ymadael mwy.
Yr oedd, fel dyn, yn weithiwr caled, yn ddarbodus, gofalus, a chywir. Gadawodd ei briod yn weddw alarus ar ei ôl, a phedwar mab a phump merch yr un modd, oll wedi tyfu i oed. Mae dau ohonynt yn Minnesota, dwy yn Chicago, a'r pump eraill yn y cylchoedd hyn.
Aeth at grefydd pan tua 43 mlwydd oed, i Moriah (M. C), Caernarfon, wedi bod tan argyhoeddiad trwm iawn. Bu am amser yn methu cysgu na bwyta fel arfer, gan ddyryswch meddwl. Ni wyddom trwy ba foddion neu offeryn y cafodd dawelwch; ond gwyddom, wrth ei brofiadau a rhediad ei feddwl am y 35 mlynedd olaf o'i fywyd, mai wrth y groes y cafodd ei faich i lawr. Yr oedd, fel eraill a ddychwelwyd yn gyffelyb, yn lled ddrwgdybus o bob pregeth a phrofiad os na fyddai pechadur a Cheidwad yn lled amlwg ynddynt. Mae yr hen stamp yma o grefyddwyr yn lleihau bob blwyddyn, er colled i'r eglwysi. Darllenai lawer; ei brif lyfr, a bron ei unig lyfr, oedd y Beibl. Darllenai Gurnal, pregethau o'r CYFAILL, Llun Agrippa, Galwad Baxter, Catecism Brown, a.y.; ond ychydig fyddai hyny yn gyferbyniol i'r Beibl; yr hyn a barai iddo weithiau ddwyn allan syniadau dyeithriol a neillduol iddo ei hun, yn dangos sylw a myfyrdod, a graddau helaeth o dreiddgarwch, ac yn enwedig o naws ysbrydol, heb ymgydnabyddu ond i raddau bychan â meddyliau rhai eraill i gymedroli ei syniadau. Os oedd efe yn rhy bell fel yna, mae llawer o rai a ystyrir yn ddeallus am grefydd, wedi casglu eu gwybodaeth yn benaf am y Beibl a'i egwyddorion o lyfrau eraill, ac nid o'r Beibl ei hun, ac felly yn wybodaeth ail law, gan esgeuluso llygad y ffynon. Yr oedd yn wrandawr da, a byddai ganddo ryw sylw neu ofyniad yn wastad am rywbeth fyddai yn y bregeth - yn brawf o feddwl diwyd ac archwaeth grefyddol.
Yr oedd yn afaelgar iawn mewn gweddi, ac yn brofiadol iawn yn y society. Ni fynai er dim golli moddion gras hyd y gallai eu dilyn. Buom yn teimlo lawer gwaith, wrth ei weled yn y capel, y buasai yn fwy rhesymol iddo fod gartref, gan mor gloff a llesg y byddai, er cymaint o golled i'r pregethwr a'r gynulleidfa fyddai ei absenoldeb. Cwynai yn ddifrifol a hiraethus yn y society a manau eraill, ei golled o fethu dilyn yr ordinhadau, methu cael y cyfarfod gweddio ganol yr wythnos, a.y., yr hyn a effeithiai yn dda ar feddyliau yr ieuenctyd ac eraill, i feddwl fod yn werth dilyn y moddion tra gellir.
Ffurfiwyd eglwys Salem yn mhen tua blwyddyn wedi ei ddyfod yno, a daeth y diweddar Henry Jones yno y flwyddyn ganlynol (1848), o Sir Oneida, New York, eisoes yn ddiacon, a dewiswyd yntau yn fuan yn gyd ddiacon, a llanwodd y swydd yn ôl ei fanteision yn ffyddlon a diwyd, fel yr oedd ei ymadawiad yn golled fawr i'r eglwys.
Cynullodd torf luosog, er anfanteision hin, i'w hebrwng i fynwent Salem, i orphwys hyd ganiad yr udgorn.