MR. RICHARD W. PRICHARD, SAN FRANCISCO CALIFORNIA.

Mawrth 22ain, 1882, yn San Francisco, California, Richard W. Prichard. Mab ydoedd i William ac Elizabeth Prichard, o Ebenezer Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, lle y ganwyd ef Chwefror 3ydd, 1837. Mae ei frawd Hezekiah yn byw yn New Jersey, a'i frawd William yn byw yn Iowa. Nid oes iddo ond un chwaer, Mrs. Russell, yr hon sydd yn byw yn Camptonville, California.

Gadawodd Richard wlad ei dadau pan yn bedair ar ddeg oed, a gweithiodd yn chwareli Pennsylvania hyd nes yr oedd yn dair ar hugain, pryd y cymerodd ei daith i California, sef yn 1860. Treuliodd beth amser yn Virginia City. Trigodd am flynyddoedd yn Camptonville a'r gymydogaeth fel mwnwr.

Dechreuodd yr afiechyd o'r hwn y bu farw, sef dolur y galon, lawer o amser yn ôl, ac yn araf ond yn sicr yr enillodd afael digon cryf i'w orchfygu. Yn fuan wedi ei ddyfodiad i San Francisco yn mis Chwefror diweddaf, fe'm hysbyswyd ei fod yn nhy Mr. Fowler, lle cafodd bob ymgeledd. Aethym yno yn ddioed. a chefais ef yn isel iawn o ran ei iechyd meddwl acn mewn poen mawr. Yn raddol lleddfwyd y poenau, cafodd hamdden i ddarllen, i feddwl ac i weddio. Cefais oddiwrtho o dro i dro bob anogaeth i'w gynghori, ei gysuro a gweddio drosto; ac yr oedd pob dyfyniad o air Duw yn gymeradwy, yn werthfawr ac yn felus ganddo. Hysbysodd ei ddymuniad drachefn a thrachefn am drugaredd a maddeuant. Gwelodd yn amlwg fod y bedd yn agos a'r Barnwr wrth y drws, ac ni ddiystyrodd alwad y Ceidwad bendigedig. Mor dda oedd genyt weled fod addysg foreuol ei fywyd eto yn fyw yn ei enaid, a thrwy hyny hawdd iawn oedd ei gymell i edrych at Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu maith bechodau y byd, ac i ffol i'r unig noddfa.

Mae genym bob sail i gredu iddo gael diangfa yn y noddfa hono, er ei fod wedi oedi hyd yr unfed awr ar ddeg. Llonwyd ef yn awr ac eilwaith a rhyw fath o obaith yr estynid ei oes; ond daeth y gelyn yn y diwedd yn lled ddisymwth, a thorwyd ef i lawr. Daeth nifer lled luosog o Gymry y ddinas i'w angladd, lle gweinyddwyd mewn modd difrifol, ar y pwys o fywyd cysegredig i Grist. Awr bwysig i ni oll oedd awr ei gladdedigaeth.

Claddwyd ei gorff gwael yn Laurel Hill Cemetery, a dodwyd ef yno hyd y "dydd hwnw," mewn llanerch lle gorwedd amryw o Gymry California.
A. WILLIAMS

Y Drych ~ Mehefin 1af, 1882.