MR. GRIFFITH H. ROBERTS, GOMER HILL, LEWIS COUNTY, NEW YORK.
Mawrth 13eg, 1882, yn 69 mlwydd oed, Griffith H. Roberts, Gomer Hill, Swydd Lewis, New York.Genedigol oedd o Lanfaelrus, ger Aberdaron, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Daeth i'r wlad hon yn 1833.
Claddwyd ei weddillion marwol yn mynwent Tug Hill. Gweinyddwyd yn ei angladd gan y Parch. Lewis Williams.