MR. MORIEN AP ROBERTS, SILVER CITY, NEW MEXICO.

Medi 13eg, 1882, yn Silver City, New Mexico, Morien ap Roberts, genedigol o ardal Bethesda, Gogledd Cymru.

Cymerwyd ef yn glaf ar y pumed o'r mis yma o'r typhoid fever, ac ni siaradodd air tra y bu dan y clefyd. Yr oedd yn amlwg ei fod mewn cystudd trwm; cafodd bob cynorthwy gan ei gyfeillion a'r Masons, ond boreu ddydd Mercher y 18eg rhoes angau derfyn ar ei yrfa ddaearol heb yr un cyfnewidiad ynddo ef. Yr oedd yn aelod o'r Morning Star Lodge, Poultney, Vermont.

Yr un dydd am pump yn y prydnawn hebryngwyd ei ran farwol i dŷ ei hir gartref gan dyrfa barchus o'r ddwy Gyfrinfa Faswnaidd, a'r holl Gymry sydd yn y lle. Yr oedd ein brawd a'n cyfaill Morien yn ddyn sobr a pharchus gan bawb, a dangoswyd hyny ddydd ei angladd. Gadawodd ni yn y tywyllwch yn nghylch ei berthynasau a'i eiddo. Penodwyd Richards, Swancoat ac Owens gan y Masonic Lodge i edrych ar ôl ei eiddo.

Am wybodaeth bellach yn ei gylch cyfeirier - Wm. Owens, Silver City, New Mexico.

Y Drych ~ Medi 28ain, 1882.