MR. ROBERT W. ROBERTS, 261 BROADWAY, NEW YORK.
Ebrill 8fed, 1882. o'r Bright's Disease, Robert W. Roberts, 261 Broadway, New York.Ganwyd ef Rhagfyr 22ain, 1842, yn Clwt-y-bont, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Wedi ymfudo i'r wlad hon bu fyw am amryw flynyddoedd yn Slatington. Pennsylvania, lle yr oedd yn ddiacon parchus gyda y T. C.
Ychydig flynyddoedd yn ôl symudodd i'r ddinas hon, lle y mawr berchid ef fel dyn didwyll, diwyd, gonest, cymwynasgar a duwiol.
Gadawodd briod a merch i alaru ar ei ôl. Rhoddwyd ei ran farwol i orphwys yn nghladdfa Greenwood yn ymyl ei fab bychan Willie. Gweinyddwyd yn y tŷ, yn y capel, ac wrth y bedd gan y Parch. G. H. Humphrey.
Y Drych ~ Ebrill 20fed, 1882.
MR. ROBERT W. ROBERTS, 261 BROADWAY, NEW YORK.
Ebrill 8fed, 1882, o'r diabetes, bu farw Mr. Robert W. Roberts, 261 Broadway, New York. Ganwyd ef Rhagfyr 22ain, 1842, yn Clwt-y-bont, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Enwau ei rieni oeddynt William a Mary Roberts. Gwnaeth broffes o'i ffydd yn Nghrist pan ydoedd tua dwy-ar-bymtheg oed, a glynodd ynddi yn ddi-fwlch hyd angeu.
Tua naw mlynedd yn ôl, ymfudodd i Slatington, Pennsylvania, lle y claddodd ei wraig gyntaf, a gadawyd ef yn amddifad gyda ei ferch fechan, Mary Ellen. Rhyw chwe' mlynedd yn ôl priododd eilwaith, gyda Miss Ruth Jones. Yn y flwyddyn 1880 symudodd ef a'i deulu i ddinas New York, lle y gorphenodd ei yrfa ddaearol, ar ôl nychu am ddeu-ddeng mis, neu ragor.
Wedi y gwasanaeth angladdol yn y capel Methodistaidd, lle yr oedd yn aelod, rhoddwyd ei ran farwol i orphwys yn mynwent Greenwood, wrth ochr ei fab bychan Willie. Yr oedd Mr. Roberts fel Cymro yn genedl-garol; fel dyn, yn ddiwyd, gonest, diabsen, a chymwynasgar; fel penteulu, yn ddarbodus a thirion; fei Cristion, yn ddirodres, astud, di-argyhoedd a zelog; ac fel diacon, pan yn Slatington, yn ffyddlawn, didderbyn-wyneb, a gofalus.
Bu farw fel y bu fyw, yn dawel, di-fraw a thangnefeddus.
G. H. H.