MR. WILLIAM L. ROBERTS, RACINE, WISCONSIN.

Awst 26ain, 1882, yn 40 oed, William L. Roberts, Racine, Wisconsin. Daeth i'r wlad hon gyda'i rieni o Ddyffryn Ardudwy pan yn 10 mlwydd oed; efe oedd y pumed o wyth o blant. Mae ei dad Richard Roberts eto yn fyw, ac mewn gwth mawr o oedran, yn ei hen gartref yn Yorkville, rhyw naw milltir i'r gorllewin o Racine. Arferal William Roberts ddyfod oddiyno i wrandaw i gapel Pike Grove, ac ymunndd ag achos Duw yma amser y diwygiad o dan weinidogaeth y Parch. Humphrey Jones, yn nghylch 25 a flynyddoedd yn ôl.

Bu yma lawer o blant i Mr. Jones, ond y mae symudiadau a marwolaethau wedi eu gwneyd erbyn hyn yn fychan iawn. Dywedal David V. Williams, tad yn nghyfralth William L. Roberts, wrthyf, "Nid oes yma yn awr neb o blant Mr. Jones ond fy hunan." Fel un o blant y diwygiad, yr oedd gweithgarwch crefyddol yn hynodi oes W. Roberts o'r cychwyniad hyd y diwedd. Darllenai lawer, a chofiai yr hyn a ddarllenai; ac nis gallwn dreulio awr yn ei gyfeillach heb deimlo fy mod yn fy enill ar hyny. Meddai ddylanwad mawr gyda'r ieuenctyd, a gallai gael ganddynt gymeryd gafael yn y cyrddau gweddi, yr Ysgol Sabbothol a chyrddau llenyddol. Efe oedd arolygwr yr Ysgol Sabbothol pan gymerais i ofal yr eglwys yma, a llenwai ei gylch yn rhagorol.

Yn mhen tua blwyddyn a thri mis ar ôl hyny symudodd i fyw tua thair milldir oddi wrth y capel, sef tua chanol Hydref, 1878. Yr oedd ei iechyd wedi dechreu anmharu cyn ei symudiad, a'r gauaf canlynol rhedodd i lawr yn rhyfeddol yn ei iechyd; ac o herwydd pellder ffordd a gwaeledd iechyd, methai roddi ei bresenoldeb fel arfer yn nhy Duw. Byddai weithiau yn teimlo yn weddol, a phryd arall yn hynod wael.

Gwariodd lawer o arian, ond ni allai neb ei iachau, na dweyd beth oedd ei afiechyd. Tua dechreu y flwyddyn 1880 cododd yr eglwys hon ef i'r swydd o ddiacon, yr hon a wasanaethodd yn gymeradwy am tua dwy flynedd. Dechreu Mawrth diweddaf rhoddodd i fyny amaethyddiaeth, o herwydd ei fod yn analluog i allu gwneyd dim ei hunan, a phrynodd dŷ yn Racine a symudodd yno; a chododd ei lythyr fel y gallai ymuno a phobl Dduw yn nhref Racine; ond yr oedd mor wael fel na allodd fyned i'r capel gymaint ag unwaith. Yr oedd iddo ef air da gan bawb, a chan y Gwirionedd ei hunan.

Bu farw a'i lygaid yn gweled iachawdwriaeth Duw, a phrofiad pawb ddydd ei angladd oedd, "Oni wyddoch chwi i ŵr mawr syrthio heddyw yn Israel." Dyn oedd Roberts, fel y sylwai Mr. Williams ddydd ei angladd, yn cario ei gydwybod gydag ef i bob man.

Gyfaill anwyl, o mor ddifrif
Ydyw meddwl dy fod di
Wedi gorphen dy ddydd gweithio
Mor gynared gyda ni;
Clywsom ddweyd ar ddydd dy angladd
Mwy defnyddiol wyt yn awr
Nag oedd bosibl i ti allu
Bod i'th Arglwydd ar y llawr.
J. H. GRIFFITH.

Y Drych ~ Medi 21ain 1882.