MRS MARY THOMAS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ionawr 12fed, 1882, yn mhlwyf Trenton, Oneida County, New York, Mrs. Mary Thomas, gweddw Ellis Thomas, Carrog, yn 74 mlwydd oed.

Ganwyd Mrs. Thomas yn Traeth Bach, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Collodd ei rhieni pan oddeutu 14 mlwydd oed; wedi hyny symudodd i fyw at gyfeillion yn mhlwyf Llangian, Sir Gaernarfon.

Ymbriododd â Ellis Thomas, Carrog, yn mhlwyf Bryncroes, o'r un sir, lle y buont byw gyda'u gilydd hyd eu hymfudiaeth i'r wlad hon yn 1851. Yn y wlad hon ymsefydlasant yn nghymdogaeth Remsen, lle y bu farw Ellis Thomas, ei phriod, yn 1866, a lle hefyd y bu farw mab a merch iddi ar ôl hyny. Cafodd y fraint o weled y gweddlll o'i theulu, tri o feibion - Mr. John, Owen ac Ellis Thomas, ac un ferch - Mrs. Evans, Utica, wedi tyfu i fyny, ac yn gysur iddi yn hwyrddydd ei bywyd.

Treuliodd y rhan olaf o'i hoes gyda'i meibion yn nghymydogaeth Remsen, y rhai drwy lafur a diwydrwydd sydd wedi dringo i sefyllfa barchus, ac i amgylchiadau llwyddianus a chysurus. Cafodd Mrs. Thomas gystudd maith; ond dyoddefodd y cwbl yn dawel ac yn amyneddgar hyd nes huno yn angau. Yr oedd yn aelod crefyddol gyda'r Methodistiaid er yn ieuanc, a chadwodd ei phroffes yn ddysglaer ac yn ddifwloh hyd y dlwedd. Yr oedd yn ffyddlawn gyda phob moddion o ras, a chyda gwaith yr Arglwydd yn ei wahanol ranau, ac elfenau crefydd bersonol yn amlwg yn ei phrofiad ac yn ei bywyd.

Yr oedd ganddi ideal uchel am yr hyn ddylai bywyd crefyddol fod, a'i gofid mwyaf oedd methu cyraedd y nod uchel hwn - y gamp uchel o alwedigaeth Duw yn Nghrist Iesu. Adroddai yn aml yr adnodau a'r penillion oeddynt yn rhoddi nerth a chysur iddi yn ei chystudd olaf, megys - "Yr hwn a ddel ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim."

Mae'r gwaed a redodd ar y groes,
O oes i oes i'w gofio.

Cymerodd y gladdedigaeth le dydd Llun Ionawr 16eg, 1882, pryd yr oedd torf fawr wedl dyfod yn nghyd at y tŷ ac i'r Capel Ceryg, Remsen, i dalu y gymwynas olaf iddi, ac i ddangos eu parch i'w choffadwriaeth. Dechreuwyd y gwasanaeth crefyddol yn y capel gan y Parch, J. S. Jones a phregethwyd gan y Parch. E. C. Evans, oddiar Deut. xxxii. 29, ac wedi hyny hebryngwyd ei gweddillion marwol i orphwys yn mynwent Penygraig hyd foreu mawr yr adgyfodiad.

Y Drych ~ Mawrth 9fed, 1882.


MRS MARY THOMAS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

I Mary Thomas, of the age of seventy years of the Town of Trenton, County of Oneida and State of New York, being of sound mind and memory, do make, ordain, publish and declare this to be my last Will and Testament, that is to say :

First : After all my lawful debts are paid and discharged, I give, devise and bequeath to my daughter Jane Evans all my wearing apparel.

Second : I give, devise and bequeath to my Grand daughter Mary Ellen, the child of my daughter Jane, Two Hundred Dollars.

Third : I give and devise to my son Owen the sum of Three Hundred Dollars.

Fourth : I give and devise to my son Ellis the sum of Three Hundred Dollars.

Fifth : I give devise to my children Jane Owen and Ellis the remainder and residue of all my real and personal property that I may be possessed of share and share alike.

Likewise, I make, constitute and appoint my sons Owen and Ellis to be executors of this my last Will and testament, hereby revoking all former Wills by me made.

In witness whereof, I have hereunto subscribed my name and affixed my seal, the second day of November in the year of our Lord one thousand eight hundred and eighty one. The mark of Mary Thomas.

The above instrument, consisting of one sheet, was at the date thereof subscribed by Mary Thomas in the presence of us and each of us; she at the time of making such subscription, acknowledged that she made the same and declared the said instrument so subscribed by her to be her last Will and Testament, whereupon she then and there, at her request, and in her presence and the presence of each other, subscribed our names as witnesses thereto.
G. Prichard residing at Trenton Oneida County.
J. N. Jones residing at Trenton Oneida County.

New York, U. S., Wills and Probate Records, 1659-1999.