MRS ANN WILLIAMS, MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.

Chwefror 16eg, 1882, yn Middle Granville, New York, bu farw Mrs. Ann Williams, yn 66 mlwydd oed. Ganwyd Mrs. Williams yn Beddgelert, swydd Gaernarfon, Tachwedd 5ed, 1815.

Yr ydoedd yn chwaer i Mr. W. E. Jones, o'r lle hwn, ac i'r diweddar Anrh. Eliazer Jones. Ymbriododd Mrs. Williams a Mr. O. Williams, Cae'rymryson, Rhostryfan, Arfon. Bu ef farw flynydaoedd yn ôl. Gadawodd ar ei hol bedwar o feibion ac un ferch, yr hon sydd yn weddw a thrallodus, nid yn unig ar ôl colli mam dyner, ond hefyd yn ddiweddar collodd ei phriod (Mr. Richard T. Jones) yn sydyn trwy ddamwain, fel yr hysbyswyd yn y DRYCH.

Cyrhaeddodd ei meibion yma i'r angladd Chwefror 20fed, tri o'r rhai oeddynt yn Nhalaeth Ohio, a'r llall yn Baffalo, New York, yr oedd ei brawd William hefyd ar y pryd yn Emporia, Kansas, ac felly yn anghyfleus i weini y gymwynas olaf i'w anwyl chwaer, er yr arferai fod yn gymwynaswr ffyddlon iddi yn ei bywyd.

Yr oedd ein hen chwaer yn un o ragorolion y ddaear, a'i duwioldeb yn eglur i bawb. Y mae son am "ddiwygiad mawr Beddgelert" ar lafar gwlad, ac yn nghryd y diwygiad hwnw megys y cafodd hithau ei meithrin. Yr oedd symledd unplyg ei bywyd, ei ffyddlondeb i'w thylwyth, ei heglwys, a'i gweinidog, ei ffyddlondeb yn ei chyfraniadau, ei chysonedd a'i rhagddarbodaeth yn nghylchoedd bywyd, a.y. - yr oedd ei bywyd rhinweddol yn brawf eglur fod cuddiedig ddyn ei chalon mewn anllygredigaeth ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd gerbron Duw yn werthfawr.

Crefydd a'i llon'd o Feibl oedd eiddo Mrs. Williams. Byddai yr hen Lyfr yn agored ar y bwrdd yn gyson. Os yr hosan a'r gweill fyddai yn ei dwylaw, byddai ei llygaid ar y Beibl, a'i meddwl yn gwau iddo ei hun ddefnydd cysur erbyn tragwyddoldeb. Nid wrth y tymorau, y lloer, a'r almanac, yr oedd hi yn crefydda; na, yr oedd wedi ei gwreiddio wrth y dyfroedd, ac ar flwyddyn sychder ni byddai hi yn gofalu.

Dywedodd y Parch. G. Roberts, Minnesota, pan fu yma yn ddiweddar, pe y deuai un o'r paganiaid ar ymweliad a'n gwlad, y byddai ganddo adroddiad doniol am danom pan y dychwelai yn ôl - y soniai lawer am ein Beiblau, fod genym Feibla mawrion, tua dwy droedfedd neu lathen o hyd a lled; ein bod yn cael Beibl newydd bob wythnos, a lluaws yn eu cael yn ddyddiol; y byddai ein byrddau yn llawn o honynt, ao mai eu rhagoriaeth oedd, mai rhai o'n gwneuthuriad ni ein hunain oeddynt! Ond am yr hen Feibl, fod hwnw allan o ddyddiad nad oedd bron neb yn ei ddarllen, ac mai dyna un rheswm dros eu bod yn eu danfon i ni y paganiaid, fel ein gelwir.

Ond yn ddiau yr oedd Mrs. Williams yn eithriad. Yr hen Feibl odd ei hyfrydwch hi, ac yr ydoedd yn gwisgo newydddeb swynol iddi bob tro yr edrychai arno - diliau ydoedd yn llawn o fêl iddi hi. O ie, crefydd o'r hen ffasiwn oedd gan Mrs. W.; ac yn ôl yr hen ffasiwn y bu hi farw - marw heb ofn, a marw heb boen. Gyda hi, collodd angau ei hen gymeriad o "frenin y dychryniadau." "Y mae ein cyfaill Lazarus yn huno," meddai y Gwaredwr; ond bu Lazarus yn glaf cyn huno, ond aeth y chwaer hon i huno heb fod yn glaf.

Tystiai nad oedd yn teimlo an gofid o gwbl - yr oedd hi wedi pasio angeu cyn ei adnabod. Dywed y traddodiad Iuddewig i Dduw dynu Moses ato ei hun a'i gusan; tybiwn mai go debyg y bu yma hefyd. Gwnaeth y Parch. H. Davies nodiadau buddiol, ac o dan gryn deimlad, ddydd yr angladd, yn y capel, cyn cychwyn i'r fynwent. Wel, gorphwys hen chwaer. Daethost i'r byd ugain diwrnod o'm blaen i, ac achubaist y blaen arnaf i fyned ohono.
H. D. FOULKES.

Y Drych ~ Mawrth 9fed, 1882.