MRS. ANN WILLIAMS, CHICAGO , ILLINOIS.

Mawrth 7fed, 1882, yn Chicago, Illinois, yn ei 46 mlwydd oed, ar ôl mis o gystudd trwm, Mrs. Ann Williams, anwyl briod Mr. David B. Williams, diweddar o Utica, New York, a merch i'r hen ddiacon anwyl, Mr. David Jones, o Ysbyty Ifan, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd yn chwaer i'r Parch. Moses Jones, Criccieth, ac mae dau frawd iddi yn byw yn Utica, a brodyr eraill ac un chwaer yn Nghymru.

Gadawodd briod hoff a phump o blant mewn galar dwys yma ar ei hol. Er holl ymdrech dau feddyg rhagorol, angau orchfygodd; ond er ein cysur, y mae genym sail gref i gredu fod yr Archoffeiriad mawr gyda hi yn ymchwydd yr Iorddonen. Bydd yn chwith iawn yn y teulu a'r eglwys ar ei hol. Yr oedd yn un hoff iawn o fawl y cysegr, ac felly yn y teulu. Byddai yn bleser ei chlywed yn canu yma, ond beth pe clywem hi heddyw! Mae yn uchel a pher ei chan, am ei hachub a'i golchi, ie ei haddasu i gymdeithas hen frodorion y nef yn ei gwisgoedd gwyn a glan.

Er mai newydd ddyfod atom yr oedd, eto yr oedd wedi enill lle cynes yn ein mynwes. Cafodd gladdedigaeth barchus iawn, a daeth ei hanwyl frodyr o Utica yma erbyn yr angladd. Awd a'r corff i'r capel, pryd y pregethodd yr ysgrifenydd ar eiriau oedd yn brofiad iddi yn ei chystudd blin - Philipiaid 1. 23 - "Canys y mae yn gyfyng arnat o'r ddeutu."

Daeth lluaws yn nghyd ar ddiwrnod garw iawn, a'r cantorion dan arweiniad Proff. J. P. Jones yn canu yn effeithiol iawn. Bydded yr Arglwydd yn llon'd ei addewid i'w phriod galarus, a'r plant hoff a gollasant fam dyner a duwiol. Yr hyn sydd yn gysur i feddwl am dano gan ei holl berthynasau ydyw, sicrwydd gobaith am wlad well. "Dyddenwoh eich gilydd a'r ymadroddion hyn," yw dymuniad yr eiddoch mewn cydymdeimlad.
D. HARRIES.

Y Drych ~ Mawrth 23ain, 1882.