MR. EDWARD L. WILLIAMS, FORT ATKINSON, IOWA.

Hydref 12fed, 1882, yn Fort Atkinson, Iowa, yn nhy Mrs. Evans ei ferch, yn 74 mlwydd a 6 mis oed, yr henafgwr Edward L. Williams.

Ei afiechyd ydoedd cancer yn y frest. Adnabyddid ef yn Nghymru wrth yr enw Edward Williams, Rhoswen, yn agos i Ffestiniog.

Ymfudodd i'r wlad hon yn 1856, gan lesteirio am flwyddyn yn Bridgewater, Oneida County, New York. Yn y lle hwn ymbriododd a'i ail wralg, sef Ellin Jones, chwaer Mr. John E Jones, o'r lle uchod. Bu hithau farw er's amryw flynyddau yn ôl. Yn ngwanwyn 18S7 daeth ef, yn nghyd ag eraill, i'r Gorllewln, ac ymsefydlodd yn Fort Atkinson, Iowa; ac yno y bu byw gan mwyaf hyd ei farwolaeth. Nid oes dim nelllduol i'w ddweyd am ei fywyd, heblaw ei fod yn dra chyson a gwastad. Yr oedd yn proffesu crefydd, ac yn aelod gyda'r T. C., er ei fod yn gwneyd ei gartref gyda'r M. E. Church o ddiffyg cyfleustra.

Dyoddefodd ei gystudd yn dawel ac ymostyngol i ewyllys ei arglwydd; ac ymwnai ei feddwl yn ei ddyddiau ddiweddaf a'r drydedd benod o efengyl Ioan. Casglodd tyrfa fawr i'w gladdedigaeth, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. O. E. Brown, gweinidog Seisnig gyda'r Bedyddwyr,
Ei fab, WILLIAM L. WILLIAMS.

Y Drych ~ Tachwedd 23ain, 1882.