MRS. GWEN WILLIAMS, BRIDGEWATER, NEW YORK.
Awst 15ed, 1882, ger Bridgewater, New York, yn 74 mlwydd oed, Gwen Williams, gweddw y diweddar John Williams, un o ddiaconiaid y T. C. yn Bridgewater. Blinid Mrs. Williams er ys rhai misoedd gan glefyd y galon, ond tua thair wythnos cyn ei marwolaetb tarawyd hi gan y parlys. Dyoddefodd ei chystudd yn dawel ac amyneddgar.Merch ydoedd i Robert ac Elisabeth Williams, o blwyf Maentwrog, Gogledd Cymru. Pan rhwng 25 a 26 oed priododd â John Williams, Cynfal Fawr. Ganwyd iddynt saith o blant, tri o'r rhai ydynt yn fyw yn awr, sef Mrs. Edward H. Jones a Mrs. Richard B. Roberts, Utica. a Robert Williams, Bridgewater.
Daethant i America yn 1845, a buont yn cartrefu yn Paris Hill am dair blynedd. Pan yno cyrchent i Utica i foddion gras. Wedi symud i Bridgewater, o herwydd nad oedd un capel gan y T. C. yno, byddent yn ymgynull i addoli ar y Sabboth mewn hen ysgubor ar fferm Rowland Morris. Yr oedd Mrs. Williams yn un o ffyddloniaid Israel. Cafodd y fraint o ddechreu gyda chrefydd pan yn 27 oed, a pharhaodd hyd y diwedd heb lychwino ei dillad. Wedi marwolaeth ei gŵr darllenai a gweddiai bob dydd gyda'r teulu - dylynai foddion gras hefyd yn gyson. Coleddai feddwl mawr o'r gyfeillach eglwysig, ac adroddai yno gyda rhwyddineb yr hyn fyddai yr Arglwydd yn wneyd i'w henaid. Cyfranai yn helaeth at bob achos da, ac yr oedd yn hynod ofalus i dalu ei holl addunodau.
Darllenai lawer ar y Belbl ac ar y "Cyfaill." Tystiai y byddai yn cael llawer o bleser ac adeiladaeth wrth ddarllen y pregethau yn y "Cyfaill." Fel y bu fyw y bu farw, gan arddangos cadernid ei ffydd a'i gobaith. Ychydig cyn ymadael dywedai ei bod yn gwybod fod iddi "adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd." Yr oedd yn fam dyner a gofalus, ac yn gymydoges a berchid gan bawb, fel y tystiai y dyrfa fawr ddaeth i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref.
Pregethwyd yn y tŷ yn Gymraeg gan yr ysgrifenydd, ac yn Saesneg gan Dr. Roberts.
JOHN S. ADAMS.