WILLIAM P. JONES, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mr. William. Parry. Jones, Penymynydd, Steuben, ydoedd fab i John a Mary Parry o Bryn Hunog Bach, plwyf Bryncroes, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ganwyd ef mewn lle a elwid y Ty Llwyd, plwyf Llangwnadl, yn yr un swydd, yn mis Chwefror 1767. Ei dad ydoedd yn aelod eglwysig gyda y Trefnyddion Calfìnaidd, yn eglwys y Ty Mawr yn yr ardal hono, wedi dechreu ei broffes tuag amser y diwygiad cyntaf dan yr enwog Howell Harris, a gwelodd dywydd lled arw gyda chrefydd yn y dyddiau hyny.

Ymfudodd Wm. P. Jones i'r wlad hon 51 mlynedd yn ôl, sef yn ngwanwyn y flwyddyn 1795. Yr oedd amryw o'i gymydogion yn dyfod drosodd yn yr un Llong gydag ef - rhai ydynt yu aros hyd heddyw a rhai a hunasant - yn eu plith yr oedd y Parch. Wm. Pierce, Steuben; Walter Griffith, Granville, O.; Hugh Roberts a'i wraig, Robertsville, C. N.; ac Owen Griffith, Steuben, y rhai am a wyddom ydynt eto yn fyw; a Robert Griffith, Llywena, Wm. Griffith, Steuben, ac ereill, y rhai er ys tro ydynt wedi eu cuddio yn y dystaw fedd. Tiriasant yn mhorthladd Caerefrog Newydd.

Daeth i fyny i ardal Trenton yr haf hwnw. Efe a gwr ieuanc o longwr, o'r enw William Davies, y rhai a ddaethant ran o'r ffordd ar eu traed o flaen y badau ar y Mohawk a gynwysent eu cymdeithion, oeddynt y ddau Gymro cyntaf (mae'n debygol) a ddaethant i mewn i swydd Oneida. Nid oedd yn Utica, yr hon y pryd hyny a elwid Fort Schuyler, ond 3 o dai ategwydd (frame houses) ac ychydig nifer o dai logiau. Aethant i mewn i fath o dafarn fach a gedwid gan un Mr. Baggs, tad y boneddwr, Moses Baggs, Ysw., yr hwn sydd anabyddus i amryw o Gymry yr ardal hon, ac yno canfyddent ryw nifer o ddynion yn gorwedd ar welyau ar lawr, yn gleirion. "A wyddost ti," ebe y llougwr wrth ei gyfaill o'r neilldu, "yr wyf yn ofni ein bod wedi dyfod i le afiach, a welaist ti y bobl gleifion yna ar lawr." Yna aeth i mewn a gofynodd yn lled arw yn Saesoneg, "Ai lle afiach ydyw y lle yma?" Atebwyd, " Nage." "Wel," ebe yntau, "beth yw y bobl seilion yma sydd yn gorwedd ar hyd lawr gyda chwi?" "Rhai wedi bod 500 o filltiroedd i'r Gorllewin ydynt, (ebynt hwythau) yn mesur tir, ac wedi cael y dwymyn yno, ac yn awr yn dychwelyd adref."

Nid oedd un bont ar y Mohawk yn Utica y pryd hyny - dim ond pren wedi ei daflu dros yr afon a chanllaw wrtho, i ddynion ar draed groesi, y gwêddi a aent trwy'r afon. Yr oedd mwy o dai yn Trenton nag yn Utica y pryd hyny, a'r flaenaf yn debycach o ddyfod yn dref boblogaidd na'r olaf. Nid oedd un ffordd o Utica i Trenton, ond llwybr trwy 'r coed. Bu Mr. Wm. P. Jones gyda y rhai cyntaf yn gweithio i agor y ffordd sydd yn awr er's llawer o flynyddau yu ffordd dollfa boblogaidd o Utica tua Chanada. Bu ef gydag ereill yu cysgu allan ddwy neu dair noson ar lan crigyll ger y lle a elwir yu awr Trenton Ddeheuol, ac yu cyneu tân o'u hamgylch i gadw y bleiddiaid draw, cyfarthiad y rhai a glywent o'u deutu yn y nos yn lled echrydus.

Ymunodd Wm. P.Jones mewn priodas yn Nghaerefreg Newydd, trwy weinyddiad y Parch. Johu Williams, âg Elizabeth Thomas, merch. Mr. Humphrey Thomas o'r Gilan, plwyf Llaneugan, yn mis Medi, 1797, yr hon oedd wedi dyfod drosodd i'r wlad hon tua blwyddyn o'i flaen ef. Yn fuan wedi priodi sefydlasant yn Stenben; buont fyw tua 4 mlynedd ger y Ty Coch, ar y lle a feddienir yu awr gan Mr. Wm. Roberts; wedi hyny symudasant i Benymynydd, ac ar y tir a brynwyd y pryd hyny y mae y weddw ac ereill o'r teulu yu aros eto. Bu iddynt 6 o blant; un ferch a fu farw yn dair blwydd oed; a'u mab John P. Jones, yr hwn afu yn aelod defnyddiol yn Nghapel Penymynydd dros ei flynyddau diweddaf a fu farw Meh. 19, 1841, yn 37 mlwydd a 10 mis oed. Y 4 ereill ydynt yn byw yn yr ardal, yn benau teuluoedd, ac yn cael y fraint oll o berthyn yn broffesedig i deulu yr lesu.

Yr oedd y brawd hwn yn anfoddlawn i nemawr gael ei ddyweyd am y marw mewn ffordd o Gofiant, er fod yn hoff ganddo glywed am ymarweddiad duwiol ac ymadawiad gorfoleddus y rhai ydynt yn marw yn yr Arglwydd. Caiff y crybwylliad hwn gan hyny fod yn fyr. Ni ddywedwn nemawr am dano ef; ond dywedwn air am amgylchiadau pethau ar achos crefydd, y blynyddau cyntaf wedi ei ddyfodiad i'r ardal hon.

Am beth amser wedi ei ddyfodiad ef a'i wraig i Steuben nid oedd dim addoliad crefyddol yn cael ei ddwyn ymlaen yn yr iaith Gymraeg yn yr ardal - rhai o'r cenhadon ffyddlon a gyrhaeddent yma ambell dro i roi pregeth yn Saesoneg. Trwy Mr. Wm. Griflhh, daeth dau Gymro (y rhai oeddynt yn mhriod â dwy chwaer ac un o honynt yn berthynas i Mr. Wm. Griffith) o New London ar lan Afon y Dwyrain, i ymweled â'r ardal, y rhai a arferent i bregethu yn Saesoneg; ac un o honynt a draddododd bregeth neu ran o'i bregeth yn Gymraeg - hyn oedd yn nhŷ Mrs. Catharine Kyffin. Yr ail bregeth Gymraeg yn Steuben ydoedd yn nhŷ John a Jane Griffith, yn yr anedd a breswyliwyd wedi hyny gan y Parch. David Michael. Bu addoliad crefyddol yn cael ei gynal gan y Cymry dros hir amser yn nhŷ y diacon Wm. C. Jones cyn codi yr addoldy cyntaf o eiddo y Cymry, yr hwn ydoedd dŷ log ar y man lle y saif y capel Ucha' yn awr, ac a losgodd i lawr y nos Nadolig cyntaf wedi iddo gael ei godi yn yr haf o'r blaen. Ty Wm. C. Jones a gynwysai yn rhwydd holl Gymry yr ardal yn y dyddiau hyny.

Derbyniwyd Wm. P. Jones yn aelod eglwysig yn y Capel Uchaf 38 mlwydd i'r gwanwyn diweddaf, yn y flwyddyn 1808, ac ymheu tua blwyddyn wedi hyny ymunodd gyda y bedyddwyr ymhlith y rhai y parhaodd ei aelodaeth hyd ddydd ei farwolaeth. Ond ymunai yn siriol dros lawer o flynyddoedd yn nghyfeillach grefyddol y Cyuulleidfawyr yn ei gymydogaeth yn Mhen y Mynydd.

Lled wael oedd ei iechyd yn gyffredin er's rhai blynyddau, er ei fod yn gallu myned a dyfod yn gyffelyb i un o'i oedran. Ei frodyr crefyddol a'i ystyrient yn wr ffyddlon gyda 'r Achos mawr, a soniai yntau yn aml mai ei ddymuniad oedd sefyll fel tyst dros ei Arglwydd hyd ddiwedd ei ddyddiau gyda ei achos ar y ddaear.

Yn ei gystudd diweddaf yr hwn a barhaodd amryw wythnosau, ymddangosai fel un yn dysgwyl ei Arglwydd o ddydd i ddydd, a dywedai yn aml, "Nid ydwyf ond fel un yn dysgwyl yr amser;" a hiraethai yn fawr am barodrwydd ac aeddfedrwydd erbyn marw. Yr oedd yn meddu hyder cryf yn yr Arglwydd lesu. Ei eiriau diweddaf, y rhai a draethodd yn floesg iawn, oeddynt "Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd!" a'r geiriau hyn a ddefnyddiwyd fel un o destynau ei angladd. Bu farw Tachwedd 20fed, 1845, yn 73 mlwydd a 9 mis oed, a dodwyd ei ran farwol yn y bedd yn mynwent Penymynydd, pan y pregethwyd ar yr achlysur gan y brodyr R. Everett a James Harris, gweinidog yr eglwys i'r hon y perthynai yr ymadawedig. Melus yw meddwl am dystiolaeth y Bibl, y bydd i'r cyfiawn fyned i mewn i dangnefedd ac y bydd ei goffadwriaeth yn fendigedig.

Y CENHADWR AMERICANAIDD ~ Medi 1846.


WILLIAM P. JONES, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Tachwedd yr 20fed, 1845, yn 78 mlwydd a naw mis oed, wedi rhaì wythnosau o gystudd, Mr. W. P. Jones, Pen-y-mynydd, Steuben.Yr oedd ef yn un o'r ddau Gymro cyntaf a ddaethant i swydd Oneida, 51 mlynedd yn ol.

Yr oedd yn fab i John Parry, Bryn-hunog Bach, plwyf Bryncroes, swydd Gaernarfon, Cymru, yr hwn oedd yn aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, wedi dechreu proffesu yn amser y Diwygiad Methodistaidd dan Howel Harries, Ysw. Bu y trengedig yn aelod parchus am flwyddyn gyda'r Cynnulleidfawyr, ac wedi hyny, am 37 mlynedd, sef hyd ei farwolaeth, gyda'r Bedyddwyr. Ei eiriau diweddaf oeddent, 'Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd!'

Gadawodd weddw oedranus mewn galar mawr am ei chymhar duwiol, ond yn prysuro yn gyflym i'r un byd o dragywyddol.

Y CYFAILL O'R HEN WLAD ~ Hydref 1846.