MR. OWEN WILLIAMS, BROWNVILLE, MAINE.

Mawrth, 4ydd, 1882, yn Brownville, Maine, Owen Williams, gynt o'r Rhydd-dir, Llandegai, Arfon, Gogledd Cymru, yn bur ddisymwth o glefyd y galon, yn 65 mlwydd oed.

Daeth i'r wlad hon 35 mlynedd yn ôl, ac ymsefydlodd yn y lle hwn. Gadawodd weddw a chwech o blant i alaru ar ei ôl. Yn ôl pob ymddangosiad y mae ei enaid wedi myned i wlad well, lle nad oes na phechod na phoen mwy. Yr oedd o gymeriad gonest, ac yn aelod ffyddlawn gyda'r Cynulleidfaolwyr Americanaidd er's llawer blwyddyn.

Cafodd gladdedigaeth barchus y dydd Mawrth canlynol, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Thomas Williams, gynt o Treflys, Bethesda, Arfon, yn y tŷ, a phregethodd y Parch. C. L. Nichols yn Saesneg yn y capel yn bur effeithiol. Yn ei farwolaeth collwyd cymydog cymwynasgar, phriod gofalus a thad tynergalon.

Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn mynwent Brownvllle gan dyrfa luosog o'i gydgenedl ac Americaniaid. Heddwch i'w lwch, medd ei gyfaill,
G. AP THOMOS.

Y Drych ~ Mawrth 23ain, 1882.