MRS. PHEBE WILLIAMS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Merch Robert Sion Evan, Tir Rhos, Llangwnadl.

Wedi cael ei bedyddio yng nghapel Penlan, Pwllheli ar 9/3/1799. Phebe of Robert and Jane Jones, Bryncroes, Shopkeeper.

Phebe wedi priodi Evan Williams, yn Eglwys Llangwnadl ar 12/11/1824.

Byw yn Ty Croes Bach, Rhiw.

Ymfudo i'r America ar fwrdd y llong St Lawrence o Lerpwl, cyrraedd Efrog Newydd ar 7/9/1840 ar ol cael mordaith stormus. Ar y rhestr teithwyr gellir gweld:-

Evan Williams. 40. Ffermwr.
Phebe Williams. 40.
Jane. 13.
William. 15.
Margaret. 11.
Solomon. 6.
Ann. 3.

Ganwyd dwy ferch arall iddynt yn America, Elizabeth yn 1841 a Laura yn 1843.

Ar ol cyrraedd America, ffermio yn ardal Steuben, wedyn symyd i Rutland yn Swydd Jefferson.

Gwilym ap Gwilym, Lleyn wedi sgwenu can am y teulu.

Anerchiad Gwilym at Gwilym Lleyn, neu William Williams, Tir y Rhos at ei berthnasau yn yr America.

Yn ei gan mae yn enwi'r teulu i gyd.

Rwyf yn cyfeirio'r ddalen hon,
O'r bron at modryb Phebe,
Ynghyd a'i theulu hawddgar iawn,
Yn llawn fe wnaf eu henwi.

Sef Evan hoff a William fwyn,
Fy nghwyn sydd am eich gweled,
A Jane a Marg'ret fwynaidd lon,
A Salmon gaddo nodded.

Eliza bach ac hefyd Ann,
Eu rhan hwy fyddo'r Iesu,
A Laura bach yr eneth wiw,
Ar hon gwnaed Duw deyrnasu.

Rwy'n cofio at fy modryb Ann,
Y cryf a'r gwan o'i theulu,
A'm modryb Laura a'i theulu oll,
Heb goll fo'n ymdawelu.

Elizabeth, chwaer Phebe oedd mam Gwilym ap Gwilym, Lleyn. Hefyd chwiorydd eraill oedd "modryb Ann" oedd wedi priodi Robert Charles a "modryb Laura" oedd wedi priodi Griffith Humphrey.

Bu Phebe farw yn 1882 yn 82 oed.

Bu Evan farw yn 1884 yn 83 oed.

Mae'r ddau, ynghyd a Jane 1823 - 1893 a Solomon 1835 - 1905 wedi eu claddu ym mynwent Capel Bethel, Remsen.

Glyn Roberts ~ Hydref 2021.


MRS. PHEBE WILLIAMS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gorphenaf 23ain, 1882, yn 83ain mlwydd oed, ar ôl cystydd blin, sef y darfodedigaeth, bu farw Mrs. Phebe Williams, Rutland, New York. Yr oedd ei rheini yn byw yn Llangwnadl, yn ymyl Pen-y-graig, yn cadw shop. Enw ei thad, fel y byddent yn arfer ei alw, oedd Robert Shon Evan y shop - hen bobl barchus a chrefyddol. Mae chwaer Mrs. Williams yn byw yn yr ardal hono yn awr, yu perthyn i gapel Hebron, yn Rhos Hirwaun.

Ymunodd mewn priodas â Mr. E. G.Williams, Ty Croes Bach, Rhiw. Dyna enw y ffarm lle yr oeddynt yn byw. Symudasant i'r wlad hon yn 1840. Yr oedd ganddynt bump o blant, a ganwyd iddynt ddau yn y wlad hon. Daethant i fyny i ardaloedd Remsen a Steuben at berthynasau Mrs. Williams oeddynt yn byw yn yr ardaloedd hyn. Ymsefydlasant yn ardal Bethel a Remsen, a buont yno am rai blynyddau.

Nid oedd ein chwaer yn perthyn i grefydd pan y daeth o'r hen wlad. Cafodd ei dychwelyd at grefydd trwy weinidogaeth y Parch. Morris Roberts. Byddai yn son yn aml am ei phrofiad crefyddoi yn mlynyddoedd cyntaf ei chrefydd. Yr oedd arwyddion amlwg yn ei bywyd fod yno gyfnewidiad trwy ras. Yr wyf yn cofio yn dda am ei phrofiadau yn yr amser hwnw yn Bethel.

Symudasant i fyw o ardal ddedwydd Bethel i le yr oeddynt mewn anghyfleusderau am foddion Cymreig. Dyma oedd yn blino ei chalon - amddifadrwydd o ordinhadau tŷ yr Arglwydd yn yr hen iaith Gymraeg. Wylai lawer with feddwl ac adgofìo am dŷ yr Arglwydd. Symudasant i ardal Turin, a buont yno am ddwy flynedd. Bywyd symudol iawn fu ei bywyd tra yn y wlad hon, ni bu yr un erioed yn un man ffyddlonach i ddyfod i foddion gras. Byddai yn cerdded rhai milldiroedd i ddyfod i'r society, ac ni fyddai yn dyfod i'r gyfeillach heb ddim i'w ddywedyd. Na, byddai wedi bod yn llafurio yn yr hen Feibl mawr oedd ganddi.

Mae ei hanwyl blant yn cofio yn hiraethus heddyw am ei ffyddlondeb i'r Beibl. Y mae hwnw yn tystio heddyw ei bod yn ffrind calon iddo, ac mai o hono ef yr oedd yn cael nerth. Nid yn unig yr oedd yn ffyddlon yn y moddion ar y Sabboth, ond yr oedd yn byw crefydd gartref, nes y mae tystiolaeth yn mynwesau y teulu ei bod yn meddu gwir grefydd. Mae ei dylanwad da ar y plant heddyw. Cafodd eu gweled oll wedi ymuno ag achos y Gwaredwr mawr. Ni fu un fam erioed yn fwy gofalus am gysur amserol a thragwyddol ei theulu. Cynghorodd lawer arnynt, a gweddiodd lawer drostynt.

Pan symudasant i fyny i Rutland, Jefferson County, amddifadwyd hi yn llwyr o foddion Cymreig. Buont yno am ddeunaw mlynedd, a byddent yn dyfod i'r Gymanfa flynyddol yn Oneida.

Bu yn wael am gryn amser, ac eto yn myned oddiamgylch i wneud ei gorchwylion fel yr oedd yn myned a lle mawr yn mynwes y teulu; ond yr oedd arwyddion amlwg fod yr hen babell yn adfeilio, ac yr oedd hithau o ran ei theimlad crefyddol yn hiraethu am fyned at wrthrych ei serch, i'r nefol wlad, i fod yn dragwyddol rydd oddiwrth bob poen a clefyd; a'i hiaith ydoedd, "Gan fod genyf chwant i'm datod a bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw."

Er mor anwyl a hoff ydoedd yn serch ei theulu, yr oedd yn addfed i fyned at ei gwobr. Yr oedd wedi caei amser hir i fod gyda'i theulu. Bydded fod ei bywyd rhinweddol yn cael ei efelychu gan ei hanwyl blant, fel y gallont gyfarfod â'u mam mewn gwlad a chartref na raid ymadael mwy.

Claddwyd hi yn barchus yn mynwent Bethel, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. E. R. Hughes ac E. Davies, Remsen. Gall y perthynasau alaru a hiraethu; ond nid "heb obaith." O! y fath gysur yw fod sail i obeithio am y cyfeillion sydd yn huno eu bod wedi "marw yn yr Arglwydd," ac felly "gwyn eu byd."
D. E. PRICHARD.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1883.