MR. STEPHEN S. WILLIAMS, WHITERSBORO, NEW YORK.

Mehefin 5ed, 1882, yn 64 mlwydd a 10 mis oed, Stephen S. Williams, Whitesboro, New York, gynt o Deerfield.

Ei glefyd oedd y pneumonia, ac ni bu yn glaf ond am ychydig. Ganwyd yr ymadawedig yn Coed y pryf, Llanuwchllyn, Meirion, yn 1818; ac enwau ei rleni oeddynt Stephen a Jane Williams.

Daeth i America yn 1847, yr un pryd a'i frodyr David S. Williams, Arvonia, Kansas. (gynt o New York Mills), a Rowland J. Williams, yr hwn sydd yn byw yn California (os byw hefyd). Bu Stephen S. Williams yn byw yn nghylchoedd Utica am tua dwy flynedd; yna aeth ef a'i frawd Rowland i California, yr un pryd a chwmni David Thomas, set tua'r flwyddyn 1849. Bu yn gweithio yn Placerville a lleoedd eraill hyd 1866, pryd y dychwelodd i Sir Oneida, gan wneyd ei gartref gyda'i frawd William S Williams, yn Deerfield - ac wedi hyny yn Whitestown. Ni bu erioed yn briod. Yr oedd yn ddyn hynaws a chrefyddol; ac yn un â fawr hoffid gan gylch eang o gyfeillion. Yr oedd hefyd yn grefyddwr egwyddorol er's 47 o flynyddau, ac yn aelod o eglwys New York Mills pan fu farw. Gadawodd ar ei ôl dri brawd - William, David a Rowland, ac un chwaer Catherine, gweddw Edward Williams, crydd, Remsen.

Claddwyd ef yn barchus yn mynwent capel Salem, Deerfield, y dydd Mercher canlynol i'w farwolaeth, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. W. B. Joseph.

Y Drych ~ Mehefin 22ain, 1882.