MR. WILLIAM G. WILLIAMS, SLATINGTON, PENNSYLVANIA.

Gorphenaf 28ain, 1882, yn Slatington, Pennsylvania, yn 68 mlwydd oed, William G. Williams.

Ymfudodd ef a'i brlod i'r wlad hon yn y flwyddyn 1815, o blwyf Deiniolen, Arfon, Gogledd Cymru, a sefydlasant am dymor yn Pottsville, Pennsylvania, wedi hyny yn St. Clairs a Danville, yna daethant i'r ardal bon, ac yma y trigiasant am ddeng mlynedd ar hugain neu ychwaneg bellach. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod gyda'r M. C. o'i febyd, ac yn y flwyddyn 1846 ddewiswyd ef yn ddiacon yn eglwys Pottsvllle, ac ni ddifreiniwyd ef hyd y diwedd, Un o'i brif ragoriaethau ydoedd ei ffyddlondeb i ddylyn moddion gras; er pellder ffordd a drychinoedd, eithriad fyddal iddo ef fod yn absenol o'r moddion.

Ymdrechodd lawer i ddod i'r capel yn ystod y cystudd maith a blin a gafodd ar derfyn ei yrfa, a thrwy ymdrech cafodd y fraint o fod yn bresenol dair gwaith y Sabboth diweddaf y bu yn fyw ar y ddaear. Bu yn ffyddlon ac ymroddgar gyda'r Ysgol Sabbothol ar hyd ei oes. Gallasai drafod athrawiaethau crefydd gyda chryn ddeheurwydd, a nodweddid weithiau gan gywreinrwydd, Yr oedd yn fwy athrawaidd nag ydoedd o wresog yn ei holl gylchoedd cyhoeddus; llawenychem yn aml yn ei oleuni pan na theimlem nemawr o'i wres. Math o'r parlys ydoedd ei afiechyd, wedi effeithio mor drwm a'r gyfundrefn y gewynau nes ydoedd wedi myned yn orgrynedig dros ei holl gorff ers misoedd cyn marw.

Dyoddefodd ei gystudd yn dawel, a thystiolaethau fod crefydd yn talu ffordd iddo hyd y diwedd. Gadawodd briod a phump o blant i alaru ar ei ôl - tair o ferched a dau fab, yr hynaf, sef Mr. Thomas Williams, yn catrefu gyda'i fam, a'r ieuangaf, Mr. John Williams, boneddwr dichlynaidd, hynaws a haelfrydlg, a masnachwr llwyddianus yn Hazelton.

Claddwyd ef yn barchus y Sabboth dylynol i'w farwolaeth yn Fairview Cemetery. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. Davies, Nanticoke, a John R. R. Jones, Slatington.

Awst 13eg traddodwyd pregeth angladdol yr ymadawedlg oddiar y geiriau yn Daniel xll. 13, "DoS dithau hyd y diwedd, yn bwrpasol ac effeitniol gan y Parch. J. R. R. Jones.
JOHN W. MORRIS.

Y Drych ~ Medi 28ain, 1882.