MR. JOHN P. WYNNE, NANTICOKE, PENNSYLVANIA.

Rhagfyr 24ain, 1882, yn Nanticoke, Pennsylvania, yn 61 mlwydd oed, mor bell ag yr ydym ni yn gwybod, John P. Wynne, genedigol o Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Nid oes neb yn perthyn i'r ymadawedig yn y lle hwn. Clywais ef yn dweyd fod nai lddo yn New York, ac un arall wedi bod yn nghylchoedd Emporia, Kansas; ond yr wyf yn methu dyfod o hyd i gyfeiriad un o'r ddau, ac am hyny yr wyf yn analluog i ysgrifenu atynt. Y mae iddo frawd yn Ngogledd Cymru o'r enw Robert Wynne, at yr hwn yr ydwyf wedi ysgrifenu. Os bydd rhai o berthynasau yr ymadawedig am gael hysbysrwydd pellach yn ei gylch, bydd i'r ysgrifenydd eu hateb yn gyflawn ond iddynt anfon eu cyfeiriad iddo ef.

Claddwyd ef dydd Mawrth, Rhagfyr 26ain, yn Nanticoke Cemetery. Cafodd angladd barchus, a gwasanaethwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan Mr. Edwards, gweinidog yr Annibynwyr.
JOB THOMAS.

Y Drych ~ Ionawr 11eg, 1883.