MRS. LIBBIE S. DAVIES, LOS ANGELES, CALIFORNIA.
Ionawr 27ain, 1883, yn Los Angeles, Callfornia, bu farw Mrs. Libbie S. Davies, priod Mr. John M. Davies, yn 37 mlwydd a 6 mis oed. Ei hafiechyd oedd y darfodedigaeth.Merch ydoedd i'r dlweddar Barch. John H. Hughes, Bryn Mawr, N. Y., ac wedi hyny o Bangor, Wisconsin. Hi ydoedd yr ieuengaf o ferched Mr. Hughes o'i wralg gyntaf. Yn Llanuwchlyn, ger y Bala, G. C, y ganwyd hi, ac yno y cyflwynwyd hi i'r Arglwydd trwy fedydd, gan y Parch. Robert Williams. Cafodd Libbie, fel yr oll o'r teulu hwn, ei magu yn ngeiriau y ffydd, a dangosodd hithau yn gynar ar ei bywyd ei bod yn ofni Duw yn fwy na llawer. Yn Bangor, Wisconsin., y derbyniwyd hi at fwrdd yr Arglwydd. Yr oedd er yn ieuanc iawn yn dangos gogwydd cryf at grefydd yn ei hegwyddorion a'i hordeiniadau. Ei hoff bleser oedd dysgu y Beibl ar ei chof, a'i adrodd; ac mewn oedran addfetach, yr oedd yn hynod am ei llafur mewn darllen, deall, a chofio yr Ysgrythyr Lân. Y Beibl, ty Dduw, a phobl Dduw oedd ei hoff bethau; am danynt hwy y meddyliai ac y siaradai; ei bwyd a'i diod oeddynt.
Trwy ei bod yn "myfyrio yn nghyfraith yr Arglwydd ddydd a nos," yr oedd, gan hyny, yn cyfateb mor gywir i'r adnod ddilynol: "Ac efe a fydd fel pren wedi ei blanu ar lan afonydd dyfroedd yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd, a'i ddalen ni wywa, a pha beth bynag a wnel efe a lwydda. "Yn mhen peth amser ar ôl ei symudiad o Wisconsin at ei chwiorydd i Minnesota, y daethom ni gyntaf i adnabyddiaeth o honi; ac yn ddiddadl yr oedd yn un o'r merched ieuanc mwyaf crefyddol a adnabuasom erioed. Yr oedd ei deall yn fywiog yn ofn yr Arglwydd, a'i hysbryd wedi ei drwytho yn llawenydd yr efengyl. Mynych y clywsom y merched ieuainc a fu yn cyd-letya a hi yn Mankato yn adrodd gyda theimladau cymysg o hiraeth, hyfrydwch, a diolchgarwch, am dani, gan adrodd ei chyngorion a'i hesiamplau rhagorol iddynt. Edrychent oll arni fel mam iddynt. Trefn y tŷ oedd, fod rhaid i bawb o honynt, foreu a hwyr, gyd-ddarllen y Beibl, yna arweiniai hithau y rhan fynychaf mewn gweddi; ac o mor briodol, Ysgrythyrol a thaer fyddai ei gweddiau!
Yr oedd ymddyddanion beunyddiol a rhodiad addas Llbbie Hughes yn bethau sydd yn perarogll yn hyfryd yn nghof ei chyfeillion a'i chydnabod hyd y dydd heddyw. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig;" a dyna un rheswm dros wneyd hyn o gofion ar dudalenau y Cyfaill am dani, er fod cryn amser wedi myned heibio er pan hunodd yn yr Iesu, yn California draw.
Yr oedd ei rhinweddau fel merch y fath fel y byddai yn ddymunol gweled ein heglwysi yn cael eu llenwi a rhaí o'r cyffelyb feddwl a hi. Er i ni golli yr olwg arni am y blynyddau olaf o'r daith, deallwn trwy dystiolaeth eraill, ei bod, er ei holl drafferthion fel mam, ac er blin a mynych wendid corphorol, yn dal yn dyn yn ei phroffes a'i chyffes o Grist Iesu.
Cafodd farw a'i phwysau ar ei hanwylyd. Hiraeth sydd arnaf am danat ti, fy chwaer! Llawer adeg ddedwydd a dreuliasom yn y cyfeillachau eglwysig yn Jerusalem; "Beth am yr awr cawn fynd i'r môr?"
Heddwch i'w llwch, hyd nes y daw y gwr a'u pia i alw am danynt.