MR. EDWARD R. EDWARDS, POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Mawrth 25ain, 1883, yn Poultney, Vermont., Edward R. Edwards, yn 76 mlwydd oed. Yr oedd yn nychu er's pedair neu bum m!ynedd, ac yn nghorff y ddwy flynedd ddiweddaf yr oedd yn bur analluog - yr oedd wedl colli ffrwyth un o'i aelodau yn llwyr. Bu farw yn dawel iawn, a chredwn fod marw yn elw iddo, Yr oedd wedi bod yn weithiwr caled iawn ar hyd ei oes, ac yn bur ddarbodus ar gyfer ei deulu, cynwysedlg o bedwar o feiblon a phedalr o ferched, yr oll wedi priodi ond y ddau fab leuengaf, y rhai sydd yn gysur mawr i'w mam yn ei gwaeledd a'i chyfyngder presenol.

Genedigol oedd Mr. Edwards o ardal Bethesda, Gogledd Cymru. Ymfudodd ef a'i deulu i'r wlad hon tua 33 mlynedd yn ôl, a buont fyw y blynyddoedd cyntaf yn ardal West Bangor, Pennsylvania, lle mae ganddynt lawer o gyfeillion mynwesol.

Tua 16 mlynedd yn ôl ymfudasaat oddiyno i Middle Granville, New York, ond symudasant drachefn i Poultney, Vermont, tua 14 mlynedd yn ôl, ac yma y terfynodd Mr. Edwards ei yrfa ddaearol.

Daetn tyrfa luosog iawn i hebrwng ei weddillion i gladdfa Poultney, pryd y gweinyddwyd yn Saesneg gan Dr. Starks. Heddwch i'w lwch.

GWILYM GALEDFFRWD.

Y Drych ~ Ebrill 12fed 1883.