MR. RICHARD EDWARDS, CHICAGO, ILLINOIS.

Mai 5ed, 1883, yn Chicago, Illinois, yn 63 mlwydd oed, Richard Edwards, blaenor yn eglwys y T. C. yn y ddinas hon. Ganwyd ein brawd yn y Bala, Gogledd Cymru. Mae iddo un chwaer yn Lloegr yn byw. Daeth i'r wlad hon o Lundain yn 1849 ac arosodd yn New York am 15 mlynedd; yna symudodd i Milwaukee, Wisconsin yn 1864, ac yno y dewiswyd ef yn flaenor yn yr eglwys.

Yn 1879 symudasant i Chicago, ac yn fuan galwodd yr eglwys hon ef i weinyddu yn ei swydd fel yr oedd yn Milwaukee. Bu yn brlod am 41 o flynyddoedd. Bu iddynt 16 0 blant, a'r oll wedi blaenu arno i ogoniant; Ie, i ogoniant, oblegid nid oes pryder yn ein meddwl am ddiogelwch ei gyflwr. Yr oedd gan ein brawd lyfrgell ragorol o brif weithiau yr awduron goreu, felly yr oedd ganddo wybodaeth eang; mewn duwinyddiaeth, chwaeth dda, ac ar y blaen ar lawer.

Gadawodd briod a'r eglwys mewn galar dwys ar ei ôl. Cafodd gladdedigaeth barchus yn y Graceland Cemetery - yr ysgrifenydd yn gweinyddu. Yr Arglwydd fyddo yn llon'd ei addewid i'r weddw a'r eglwys. Yr eiddoch mewn galar ar ei ôl.
D. HARRIES.

Y Drych ~ Mai 17eg 1883.