MR. WILLIAM E. EDWARDS, DETROIT, MICHIGAN.

Mehefin 7fed, 1883, yn 66 mlwydd oed, o'r pneumonia, ar ôl cystudd o ychydig ddyddiau, William E. Edwards, Detroit, Michigan.

Ganwyd ef yn Penygroes, Llanllyfni, a'i rieni oeddynt John a Mary Edwards. Yr oedd ei dad yn enwog fel saer melinau a gwneuthurwr olwyni dwfr, a chyfranogodd ei fab o'i dalentau yn y cyfeiriad hwn yn dra helaeth. Bu yn assistant mechanical engineer, o dan ei frawd John E. Edwards, yn waterworks y dref hon am 22 mlynedd, a meddai ymddiried hollol y Board of Water Commissioners hyd y diwedd.

Daeth i'r wlad hon yn 1837, gan ymsefydlu yn ninas New York, lle ymunodd a'r eglwys dan weinidogaeth y diweddar Dr. Rowlands, am yr hwn y coleddai feddyliau parchus iawn drwy ei oes. Yno hefyd yr unodd mewn priodas â Miss Ann Roberts, merch i'r diweddar Griffith a Mary Boberts, Penygraig, Mallwyd, Meirion, yr hon a'i rhagflaenodd i'r "aneddle lonydd" Mawrth 27ain, 1867.

Gadawodd New York yn 1848 a sefydlodd yn y ddinas hon, ac ar unwaith ymunodd y ddau a'r eglwys Bresbyteraidd yma - o'r hon eglwys yr oedd yn aelod hyd y diwedd.

Tua'r flwyddyn 1851 daeth amryw Gymry i breswylio yma - yr ysgrifenydd ac eraill trwy ei offerynoliaeth ef - ac yr oedd yn awyddus iawn am foddion Cymreig, a chafwyd hyny. Yn ei dŷ ef y cynaliwyd y cyfarfod Cymreig cyntaf yn Michigan, mae'n debyg, a pharhawyd i ymgynull yno am flynyddoedd, fel y gellir ei alw yn dad i'r tipyn achos Cymreig yn y lle hwn. Yn 1858 ymadawodd oddiyma a gwnaeth ei drigfan yn Oshkosh, Wisconsin, a manau eraill y y Dalaeth hono; ond yn mhen tua chwe mlynedd dychwelodd i Detroit.

Yn y blynyddoedd yna cyfarfyddodd â siomedigaethau a cholledion lawer; ond pa faint bynag o bethau y byd hwn a gollodd, ni cholldd ei gymeriad na'i grefydd - daeth yn ei ôl a'i goron ar ei ben. Erbyn hyn mae ei deithiau yma wedi darfod, ac y mae "yn wastadol gyda'r Arglwydd," Gadawodd fab a thair merch ar ei ôl, ac y mae yn bur gysurus i ddweud eu bod yn dylun ôl traed eu rhieni.

Gan nad yw cofiantau meithion yn dderbyniol genych chwi, nac yn fuddlol i'ch darllenwyr, caniatewch i mi nodi yn fyr rai o brif hynodion ein hanwyl frawd Yr oedd yn hynod yn el wyleidd-dra. Dyn gostyngedig iawn ydoedd; o'r braidd na ddywedem ei fod yn ormod felly. Nid oedd yr un mymryn o'r Diotrephes ynddo, yr hyn oedd yn anfanteisiol iddo, gan fod cynifer yn "chwenych y blaen." Cadwodd ei ddiffyg o hunan ymddiried ef yn ormod yn y cysgod, a rhag meddianu y safle ag yr oedd ei dalentau fel crefftwr yn ei hawlio. Deuai yr elfen hon allan hefyd yn ei brofiad fel Cristlon - ofnus oedd ac yn y cywair lleddf y byddai yn canu. Nid oedd neb arall yn ameu ei grefydd - yr oedd yr amen a'r pryderu i gyd o'i dŷ ef.

Nid peth bychan ydyw byw yn y fath fodd na bydd amheuaeth yn meddyliau y rhai sydd yn ein hadnabod oreu am wirionedd ein crefydd. Un felly oedd ef - dyn dewisol ac "Israeliad yn wir." Os nad oedd rhyw lawer o hyawdledd yn ei dafod, yr oedd llawer iawn o hyawdledd crefyddol yn ei draed a'i ddwylaw - "cerddai ar ganol llwybrau barn."

Yr oedd yn hynod hefyd yn ei barch i weinidogion y gair, ac fel gwrandawr yr efengyl - nid yn unig myned i glywed y byddai, ond i wrandaw yn astud ac yn ddiolchgar. Ni fyddal byth yn gwrandaw fel beirniad, eithr yn hytrach fel pechadur; talai fwy o sylw i'r genadwri nag i ddull y cenadwr yn traddodi. Aelod gwael iawn a fuasai efe o urdd Photographers y Pwlpud Oymanfaol Cymreig. Yr oedd yn wrandawr cyson, fel y dywedai ei weinidog Dr. Baker ar ddydd ei angladd. Yr oedd bob amser yn ei sedd pa fath bynag a fyddai y tywydd, a'r bregeth olaf a fyddai yr oreu ganddo bob amser. O pe byddal rhagor o'r fath yn yr ystyr hwn - gymaint o draffarth a helbul meddwl a arbedid i weinidogion y gair.

Yr oedd yn hynod yn ei genedlgarwch. Yr oedd yn Gymro trwyadl, ac yn un o dderbynwyr y DRYCH a'r Cyfaill o'r dechreuad. Mae y rhifyn cyntaf o'r Cyfaill gan ei blant. Ac nid caru ei gydgenedl ar air yn unig y byddai, eithr mewn gweithred ac mewn gwirionedd, fel y gwyr llawer un yn brofiadol. Hoffai "waredu y tlawd a fyddai yn gwaeddi, a'r amddifad, a'r hwn ni byddai gynorthwywr iddo."

Ond erbyn hyn y mae wedl ein gadael. Tua'r diwedd ni allal ddweyd braidd ddim o herwydd natur ei afiechyd, yr hwn a ymosododd arno mor sydyn, fel na chafodd neb o honom braidd gyfleustra i ymddyddan ag ef; ond yr oedd ei fywyd am flynyddoedd lawer yn ddigon o dystiolaeth fod ei "farn a'i fater yn dda." Yr ydym fel ychydig o Gymry yn Detroit, ei hen gyfeillion, yn telmlo yn chwith ar ei ôl; mae ei le yn wag yn ein cyfarfodydd bychaln. Yr oedd y cyfarfod cyntaf a gawsom ar ôl ei gladdu yn fath o gyfarfod coffadwriaethol, ac nid oedd yr un llygad sych yn y lle. Traddododd yr ysgrifenydd ychydig sylwadau ar y galr "Gwyn fyd y meirw sydd yn marw yn yr Arglwydd" - byw i'r Arglwydd - marw yn yr Arglwydd - "cyd ddyoddef - cyd-deyrnasu;" a gwnaeth y brawd E. D. Jones, yr hwn sydd yn blaenori yn ein plith, sylwadau pur bwrpasol i'r amgylchiad; ond torodd ei deimladau i lawr yn lân wrth son am ei hen gyfaill.

Claddwyd ef wrth ochr ei briod yn Elmwood Cemetery. Heddwch i'th lwch fy hen gyfaill.
EZRA HUGHES.

Y Drych ~ Medi 20fed 1883.