MR. OWEN H. EVANS, HICKORY TOWN, MONTGOMERY CO, PENNSYLVANIA.

Hydref 18fed, 1883, yn 59 mlwydd oed. Owen H. Evans, Hickory Town, Montgomery County, Pennsylvania - brodor o Tai'r Meibion, plwyf Llanllechid, Gogledd Cymru.

Daeth i America tua 32 mlynedd yn ôl. Bu am beth amser yn ngorllewin barth Pennsylvania; yna symudodd i ardal Philadelphia, lle yr arosodd hyd ei ymddatodiad.

Gadawodd gartref cysurus gyda mab a merch i alaru ar ei ôl; ond aeth ef yn ddiau i gwmni gwell yn y wlad fry. Hebryngwyd yr hyn oedd farwol o hono i gladdfa y Bedyddwyr yn Cold Point, yn nghanol galar llu o gyfeillion a pherthynasau.

Y Drych ~ Tachwedd 29ain, 1883.