MR. WILLIAM O. EVANS, MINNEAPOLIS, MINNESOTA.
Awst 12fed, 1883, yn yr Hospital yn Minneapolis, Minnesota, o'r typhoid fever, ar ôl cystudd o ddeg diwrnod, William O. Evans, yn 23 mlwydd, l mis ac 21 diwrnod oed.Mab ydoedd i Edward a Gwen Evans, Willow Creek, Clay Co., Iowa, gynt o Tanyrallt, ger Corwen, Swydd Feirionydd, Gogledd Cymru.
Bu y gŵr ieuanc yma farw yn nghanol ei nerth ar fyr rybudd, ac yn mhell oddicartref, heb yr un perthynas yn agos i weinyddu y gymwynas leiaf iddo ar ei wely angau. Nid oedd ei rieni yn gwybod ei fod yn glaf hyd y dydd y bu farw. Pan yr oeddynt hwy yn darllen y llythyrau oedd yn hysbysu ei fod yn glaf, yr oedd yntau yn marw; ond ni wyddent hwy hyny ar y pryd, a dyma oedd yn gwneyd ei farwolaeth ef yn galonrwygol i'r eithaf i'w deulu, yn neillduol i'w anwyl fam yn ei gwendid ar ôl cystudd trwm a pheryglus.
Dyma y cyntaf a fu farw o'r teulu, a hawdd y gallwn ddyfalu y buasai yn dda iawn gan ei rieni gael bod gyda ef yn ei oriau olaf; ond nid felly y bu. Y mae yn gysur mawr iddynt yn ngwyneb hyn gael sicrwydd fod eu hanwyl fab yn ei unigrwydd perthynasol wedi cael pob ymgeledd a gofal ag oedd yn bosibl. Bu y Cymry adnabyddus iddo yn y ddinas yn ffyddlawn yn eu hymweliadau ag ef ac yn eu gofal amdano; ac y mae y teulu galarus yn dymuno cyflwyno eu diolchgarwch mwyaf dlffuant iddynt oll am eu caredigrwydd a'u gofal am eu hanwyl fab, ac yn neillduol i William P. Williams am ei lafur yn paratoi y corff i'w anfon adref i'w gladdu, ac i John W. Jones am ddyfod gyda'r corff. Cyrhaeddodd adref boreu Mercher y 15fed, a chladdwyd ef yn barchus yr un dydd yn mynwent capel Seion y T. C. Yr oedd y claddedigaeth yn un lluosog iawn. Dangosodd yr ardal yn hyn ei chydymdeimlad a'r teulu trallodedig, Cyflawnwyd gwasanaeth crefyddol yn y tŷ cyn codi y corff ac wrth y bedd fel arferol, a'r Sabboth canlynol pregethwyd ar yr amgylchiad galarus gan yr ysgrifenydd.
Dyma un prawf gwpledig eto o freuoldeb bywyd a'r pwysigrwydd o fod yn barod, a bendithied yr Arglwydd y tro yma i'r teulu oll, ac ieuenctyd yr ardal yn gyffredinol, er eu dwyn i ddal gafael yn eu proffes o Grist, ac i barotoi i'w gyfarfod yn angau a'r farn. Dros y teulu.
RICHARD ISAAC.