MR. W. REESE EVANS, KNOXVILLE, TENNESSEE.

Tachwedd 17eg, 1883, yn 36 mlwydd a 5 mis oed, yn nhy John Evans, Knoxville, Tennessee. Mr. W. Reese Evans, o abcess yn ei ochr.

Genedigol oedd o Caernarfon, lle y preswylia ei rieni a'i berthynasau. Daethai i Knoxville o Dell Roy, Ohio, tua saith wythnos yn ôl; ac yr ydoedd yn ddyn ieuanc parchus ac addawol, ac yn aelod gyda'r Odd Fellows yn Dell Boy.

Claddwyd ef ar y 18fed yn Oskaloosa, gan yr Odd Fellows, tair Cyfrinfa o honynt wedl troi allan ar yr achlysur, heblaw llu o ddinasyddlon eraill. Cafodd bob gofal tra fu yn glaf, ac angladd anrhydeddus; hefyd gosodir careg ar ei fedd.

Y Drych ~ Rhagfyr 6ed, 1883.