MR. GRIFFITH GRIFFITHS, WATERTOWN, WISCONSIN.

Gorphenaf 3ydd, 1883, yn Watertown, Wisconsin, yn 61 mlwydd oed, Griffith Griffiths, ar ôl hir a phoenus gystudd.

Ymddengys ei fod er ys blynyddau ya cael e1 flino gan afiechyd yr arenau, yr hwn a derfynodd ei yrfa ddaearol.

Genedigol ydoedd o Llanegryn, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.

Newydd symud ydoedd ef a'i deulu o Randolph, Wisconsin, i'w dŷ ei hun i Watertown. Bu yn byw yn Watertown flynyddoedd yn ôl o'r blaen; felly bu farw yn nghanol ei hen gydnabod.

Bum yn ymweled ag ef droion tra yn ei gystudd diweddaf. Petbau y Beibl ydoedd ei brif bethau. Ni obeithiwn fod ganddo drysor yn y nef yn ogystal a thrysorau ar y ddaear. Duw pob gras fyddo yn llond ei addewid i'r weddw a'r plant amddifald a'r perthynasau oll.

Cafodd gladdedigaeth anrhyderus. Heddwch i'w lwch hyd forau y codi.
JOHN T. MORRIS.

Y Drych ~ Awst 9fed 1883.