MR. JOHN R. GRIFFITHS, ROCKPORT, GEORGIA.
Medi 5ed, 1883, yn Rockmart, Georgia, o'r inflammation of the bowels, John R. Griffiths, yn 52 mlwydd a 7 mis oed. Ni bu yn gorwedd ond ychydig ddyddiau.Brodor oedd o'r Frongoediog, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Yn ei farwolaeth collodd yr ardal ddinesydd da, a'r teulu, sef gwraig, mab a merch, wedi eu hamddifadu o ŵr a thad gwerthfawr; ond mae eu sefyllfa dymorol yn dda.
G. W. JONES.