MRS. ESTHER HUGHES, RACINE, WISCONSIN.
Chwefror 24ain, 1883, yn Racine, Wisconsin o'r darfodedigaelh, yn 32 mlwydd oed, Mrs. Esther Hughes, anwyl briod Mr, Ellis Hughes.Merch ydoedd i John ac Elizabeth Thomas, o Aber, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Bu ei mam farw yn Llanllechld tua 16 mlynedd yn ôl, gan adael Mr. Thomas a saith o blant i alaru ar ei hol.
Daeth Mrs. Hughes i'r wlad hon o Aber yn 1871, ac wedi cyraedd Racine ymbriododd â Mr. Ellis Hughes yn Ionawr, 1882, a bu ganddynt ddau o blant, y rhai a adawodd ar ei hol.
Yr oedd y chwaer hon wedi ei magu gyda chrefydd, ac yr oedd yn wraig ddeallus, yn arddangos ei bod wedi llafurio yn mhethau yr Ysgol Sabbothol, mewn dysgu allan ac adrodd pan yr oedd yn ieuanc. Yr oedd yn ymdrechgar hefyd i addysgu ei phlant ei hun. Gadawodd dystiolaeth dda ar ei hol. Bydd yn golled fawr i'w phriod a'i phlant ar ei hol.
Gweinyddwyd yn ei hangladd gan yr ysgrifenydd a'r Parch. John P. Williams (A.)
JOSEPH ROBERTS.
Y Drych ~ Mawrth 22ain 1883.
MRS. ESTHER HUGHES, RACINE, WISCONSIN.
Chwefror 24ain, 1883, o'r darfodedigaeth, Mrs. Esther Hughes. yn 32 mlwydd oed.Merch ydoedd i John ac Elizabeth Thomas, o Aber, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Bu ei mam farw yn Llanllechid, tuag un mlynedd ar bymtheg yn ôl, gan adael ei phriod a saith o blant ar ei hol.
Daeth Mrs. Hughes i'r wlad hon o Aber yn 1871, ac wedi cyrhaedd y dref hon, ymbriododd yn Ionawr, 1872 â Mr Ellis Hughes. Bu ganddynt ddau o blant, y rhai a adawodd ar ei hol. Yr oedd y chwaer hon wedi ei magu gyda chrefydd, ac wedi ei haddysgu pan yn ieuanc mewn pethau crefyddol, ac wedi llafurio gyda yr ysgol Sabbothol, fel yr oedd yn wraig lled ddeallus. Ymdrechai i addysgu ei phlant, ac ni oddefai iddynt fyned i'r ysgol Sabbothol heb ddysgu adnodau newyddion. Nid oedd ond ychydig yn cael ei gweled heblaw y teulu yn ei chystudd, ac yn ei dyddiau olaf.
Pan aethum i'w gweled dri neu bedwar diwrnod cyn iddi farw, dymunai am fy ngweled; a dywedodd ei bod wedi rhoddi fyny bob gobaith i fyw a gwellâu. Teimlai yn ofidus wrth feddwl gadael ei phriod a'i phlant, eto ymdawelai i ewyllys ei Duw, a meddyliai yn sicr ei bod mewn diogelwch tragywyddol. Pwysai ei henaid ar yr Iawn mawr. Yr oedd yn wraig dda a darbodus, a bydd yn golled fawr i'w phriod a'i phlant ar ei hol.
JOSEPH ROBERTS.