MRS. HANNAH HUGHES, BROWNVILLE, MAINE.

Hydref 22ain, 1883, yn Brownville, Maine, Mrs. Hannah Hughes, anwyl briod Mr. William W. Hughes, Tyntwr, Bethesda, Arfon, Gogledd Cymru, gynt, a merch i Mr. Morris Jones, Tros yr Afon, Bethesda.

Yr oedd yr ymadawedig yn 34 mlwydd oed. Darfodedigaeth ydoedd ei hafiechyd, ac amlygodd yn ei chystudd blin ysbryd tawel a boddlon i ewyllus yr Arglwydd.

Y dydd Mereher canlynol ymgynullodd tyrfa fawr o Americaniaid a Cymry i hebrwng yr hyn oedd farwol ohoni i fynwent Brownville. Gweinyddwyd yn Saesneg gan y Parch. C. S. Nichols yn bur effeithiol yn y tŷ.

Collodd y teulu, sef priod a dau o blant, fam dyner a gofalus. Bydded i'r Arglwyld ofalu am danynt yn eu hadfyd blin, yw dymuniad eu cyfaill.
GWILYM AP THOMAS.

Y Drych ~ Tachwedd 8fed 1883.