MRS. CATHERINE JENKINS, ROME, NEW YORK.

Mawrth 17eg, 1883, yn Rome, New York, yn 61 mlwydd, 8 mis a 23 diwrnod oed, wedi dwy flynedd o gystudd gan y cancr yn y cylla, Catharine, gwraig John Jenkins, Wadesburgh, Missouri.

Hebryngwyd ei gweddillion y dydd Mawrth dylynol, o anedd Morgan Williams, i fynwent Wright's Settlement, Floyd, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. D. E. Prichard a John B. Jones.

Merch ydoedd Mrs. Jenkins i David a Catherine Pugh, gynt o Sir Feirionydd. Gogledd Cymru, ac wedi hyny o Rome. Daeth hi drosodd i'r wlad hon yn 1839, dwy flynedd o flaen ei rhieni.

Priodwyd hi รข Mr. Jenkins yn Utica, Ionawr 1842, gan y diweddar Dr. Rowlands, Buont byw rai blynyddau yn Brooklyn, New York, wedi hyny symudasant i Wadesburgh, Missouri.

Ganwyd iddynt ddeg o blant, pedwar o'r rhai ydynt fyw yn awr, sef William, Meredith, a Mary J., yn byw yn Missouri, ac Anne, priod Henry Ford, yn Kansas. Hefyd gadawodd dri brawd a thair chwaer i alaru ar ei hol, sef David Pugh, Brooklyn, New York, Griffith a Meredith Pugh, a Mrs. Morgan Williams, Rome, New York, Mrs. Jones, Waterville, New York, ac un yn Nghymru.

Cafodd y fraint o gael ei geni mewn teulu crefyddol a dylynodd yr Oen yn ffyddlawn hyd angau, trwy bob rhwystrau. Nodweddid hi gan ddifrifwch a gostyngeiddrwydd; yr oedd yn ymdrechgar gyda phob peth yr ymgymerai ag ef, yn lletygar, ac yn un a gerid gan bawb a'i hadwaenai.
G. GRIFFITHS.

Y Drych ~ Mawrth 29ain 1883.