MRS. CATHERINE JONES, WINFIELD, IOWA.
Mehefin 28ain, 1883, yn Winfield, Iowa, yn 86 mlwydd oed, Catherine, gwraig Hugh Jones, a merch henaf Richard a Jane Williams, gynt o Lanfairfechan, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddlon o eglwys y Trefnyddion Esgobawl yn y lle uchod, a bu farw yn yr Arglwydd. Gadawodd briod ac amryw o blant bychain i alaru eu colled ar ei hol.
Claddwyd hi yn mynwent Long Creek, pryd y gweinyddwyd gan ei gweinidog, y Parch. Mr. Tuttle, a'r ysgrifenydd. Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon a ofalo am ei phriod a'i phlant.
J. E. JONES.