MRS. ELIZABETH ELLEN JONES. PLAINFIELD, OTSEGO COUNTY, NEW YORK.

Rhagfyr 4ydd, 1883, ya Plainfield, Otsego County, New York, yn 73 mlwydd oed, Mrs. Elizabeth Joaes, gweddw y dîweddar Owen Jones.

Ganwyd hi yn Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1810.

Cafodd ei dwyn i fynu ar aelwyd grefyddol. Ymunodd a'r Annibynwyr pan yn lled ieuangc yn nghapel Bethania, a bu yn ffyddlon a selog yn yr egìwys hono, hyd nes yr ymadawodd hi a'ì phriod i ddod i'r Amerìca yn y flwyddyn 1842. Ar eu tiriad yma, cawn iddynt sefydlu yn Letchfield, Herkimer County; ond gan nad oedd eglwys Gymreig yn y lle, nid hir y buont cyn symud eu pabell, a'i gosod i lawr drachefn ger Cassville, Oneida County, New York, ac ymunasant ag eglwys Waterville, lle y buont yn aelodau ffyddiawn hyd nes y symudasant i'r ardal hon tua 22 mlynedd yn ol.

Rhyw 16 mlynedd sydd er pan ddaethum i adnabyddiaeth a'r ddiweddar anwyl chwaer, ond o hyny hyd ddydd ei marwolaeth, mwynheais lawer o'i chymdeithas, ac wrth adgofio yr byn a fu, y mae genyf heddyw syniadau uchel iawn am dani fel gwraig grefyddol. Hoff bwnc ei myfyrdod a'i bymddiddanion oedd Iesu, ar yr Hwn y gorphwysai ei henaid, a'i achos bendigedig, am yr hwn yr ymglymai ei chalon.

Ffyrdd crefydd oeddynt ffyrdd hyfrydwch iddi, a'i holl lwybrau hi yn heddwch. Yr oedd ei phrofiad crefyddol yn felus, a'i zel yn fawr hyd ddiwedd ei hoes. Nid ofnai ddyfodiad Mab y dyn, am fod ei lamp wedi ei thrwsio yn barod, ac yn goleuo yn ddisglaer, fel nad oes betrusder yn ein meddwl nad aeth i mewn yn ddyogel i fwynhau y llawenydd a'r gwynfydedigrwydd a fwynha y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd.

Collasom fam yn Israel; ond yr hyn a fu yn golled i ni a drodd yn enill tragwyddol iddi hi.

Daeth nifer luosog iawn o gyfeillion caredig a pberthynasau hoff yn nghyd i ddanfon yr hyn oedd farwol o honi i orwedd wrth ochr ei phriod yn mynwent Plainfìeld Centre.

Gweinyddwyd gan y Parch, E. Davies, Remsen, a'r ysgrifenydd. Bydded i'r pum' plentyn galarus a adawodd yma ar ei hol, gofio am ei gweddiau drostynt a'i chynghorion iddynt; ystyried diwedd ei hymarweddiad, nes eu dwyn oll i ofni Duw eu tad a'u mam. Hyn yw dymuniad un y mae ganddo barch i'w coffadwriaeth.
H B. Williams.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1884.