MRS. GEUNOR JONES, BANGOR, WISCONSIN.

Ionawr 31ain, 1883, yn Bangor, Wisconsin, Mrs. Geunor Jones, yn 74 mlwydd oed, gwraig i Mr. Lewis Jones.

Daethant i'r wlad hon o Bethesda, Caernarvon, yn 1846, a buont am dair blynedd yn Mineral Point, ac wedi hyny yn Waukesha, ac o hyny hyd yn awr yn Bangor.

Ei chlefyd oedd y cancer of the liver. Claddwyd y gweddillion yn barchus y dydd canlynol gan dyrfa barchus, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. J P. Evans (A ) yn y tŷ. J. Vaughan (B ) a William Jones (B.) yn y capel, ac H. M. Pugh (T. C.) wrth y bedd.

Gadawodd briod a thri o feiblon a dwy ferch i alaru ar ei hol. Heddwch i'w llwch i huno yn dawel.
J. HOLLAND.

Y Drych ~ Chwefror 22ain, 1883.