MR. JOHN M. JONES, CENTERVILLE, GALLIA COUNTY, OHIO.
Chwefror 6ed, 1883, yn ngos i Centerville, Gallia County, Ohio, yn 63 mlwydd oed, o'r pneumonia, John M. Jones.Ni bu ond ychydig wythnosau yn gystuddiol, ac yr oedd ei farwolaeth yn bur ddirybudd ac annysgwyliadwy.
Genedigol oedd o ger Dinas Mawddwy - mab Morris a Mary Jones. Daeth i'r wlad hon yn 1842, gan dreulio y blynyddoedd cyntaf yn Cincinnati, lle yr ymunodd mewn glan briodas â Jane Thomas, merch i'r henafgwr Josuah Thomas, o sefydliad Gallia County. Cychwynodd ei yrfa grefyddol gyda yr Annibynwyr; oni pan oedd yn y ddinas uchod daeth hyd i draethawd ar fedydd, a chyfnewidiodd ef a'i briod eu barnau, gan gymeryd eu bedyddio gan y Parch. Phillips, gweinidog yr eglwys Gymreig.
Wedi treulio ychydig flynyddoedd yn dra dedwydd yn Cincinnati, symudodd i Sandusky, Ohio. Bu yn y ddinas hon am tua saith mlynedd. Nid oedd yma ddim achos Cymreig, felly fe ymunodd y brawd Jones a'r eglwys Fedyddiedig Seisnig. Ymadawodd a Sandusky a daeth i sefydllad Gallia a Jackson, gan ymuno ag eglwys Fedyddiedig Centerville; ac er ei fod yn byw llawn chwe' milldir o'r capel nid oedd ei le yn wag yn wythnosol na Sabbothol - ni welwyd erioed frawd mwy ffyddlon i gadw ei gynulliad eglwysig. Yr oedd yn ddiacon ffyddlon, a pherchid ef yn fawr fel swyddog eglwysig didderbynwyneb.
Cafodd egiwys Centerville golled fawr yn ei farwolaeth. Claddwyd ef yn mynwent Nebo, pryd y pregethwyd yn Gymraag gan y Parch. D. J. Lloyd, ac yn Saesneg gan yr ysgrifenydd, Yr oedd ei weddw a naw o'i blant mewn mawr alar yn cylchycu ei fedd, Do, fe gollwyd priod a thad tyner a gofalus a Christion dysglaer yn marwolaeth ein brawd.
D. S. JONES.