MRS. MATILDA A. JONES, SLATEFORD, PENNSYLVANIA.
Mawrth 18fed, 1883, yn Slateford, Pennsylvania yn 45 mlwydd oed, Mrs. Matilda A. Jones, priod Mr. John G. Jones, gynt o'r Cefn, Llauwnda, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Dyoddetodd gystudd am dair blynedd. Yr oedd yn briod ffyddlon a mam ofalus. Gadawodd ar ei hol yn nyffryn galar briod a thri o blant, a theulu lluosog, y rhai sydd mewn teimlad dwys a gofid calon.
Rboddwyd yr hyn sydd farwol i orphwys hyd ganiad udgorn Duw yn nghladdfa River View, Portland, pryd y gweinyddwyd gan weinidog y Presbytertiaid, gyda'r rhai yr oedd yr ymadawedig yn aelod ers ugain mlynedd.
PENMAN.