OWEN D. JONES, TURIN.

Bu farw, yn nhy ei frawd-yn-nghyfraith, Mr. Ellis Lewis, yn agos i Constableville, swydd Lewis, N. Y., ar y 19eg o Fehefin, 1883. Owen D. Jones, yn y 55ain mlwydd o'i oedran. Wedi crybwyll fel hyn ei fod wedi marw, nid ydym i ddeall ei fod wedi peidio a byw — dim ond fod y babell gnawdol wedi ei thynu i lawr er mwyn i'r ysbryd gael dechreu byw y bywyd tragwyddol: "A'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef."

Ganwyd Owen Jones yn sir Feirionydd, G. C. Yr oedd yu un o deulu lled luosog. Mae eto yn fyw ddwy chwaer yn Nghymru, un brawd a chwaer yn swydd Lewis, ac un brawd yu Old Man's Creek, Iowa. Daeth i'r wlad hon tua'r flwyddyn 1852. Ymunodd â phobl yr Arglwydd yn yr Han Wlad pan oedd tuag ugain oed. Ni bu yn briod, a threuliodd y rhan helaethaf o'i amser yn y dalaeth hon, gan weithio yn benaf ar ffermydd. Bu hefyd yn Wisconsin, a rhai manau eraill yn y Gorllewin. Bu yn ymweled â'i bobl yn yr Hen Wlad rai blynyddoedd yn ol, er mwyn adferu ei iechyd, a chael gweled ei berthynasau yno.

Yr oedd yn ddyn diwyd a gonest, yn gyfaiìl cywir a gwir ddyddanus. Yr oedd hefyd yn meddu ar ysbryd haelionus. Cyfranai at bob achos da. Byddai yn dra ffraeth wrth siarad ar acbos dirwest, ac achos y Gymdeithas Feiblaidd. Yr oedd yn hoff iawn o'r Ysgol Sul. Adroddai ranau o bregethau fu yn wrando yn aml, gan roddi ychwaneg o oleuni ar faterion crefyddol ar yr un pryd. Yr oedd yn iach yn ffydd Iesu; ac wedi unwaith wneyd ei feddwl i fyny, nid yn hawdd y gellid ei newid.

Cafodd gystudd lled faith, ond yr oedd wedi cael aml adeg isel cyn y diweddaf. Cafodd olwg neillduol o brydferth ar Iawn Crist yn ystod ei afiechyd olaf.

Bu farw yn ddedwydd iawn, gan bwyso ar Iesu yn gyfan. Bu hefyd fyw fel Cristion da am 35 mlynedd. Yr oedd yn aelod yn eglwys Turin tra y bu moddion yno, ac wedi hyny yn Collinsville. Soniai am y pleser gafodd i'w feddwl gyda'r hen frodyr wrth addoli yn Turin a manau eraill.

Claddwyd ef yn barchus yn mynwent Turin, ar yr 21ain o Fehefin. Daeth tyrfa luosog i'w angladd yn yr Eglwys Bres., pryd y gweinyddwyd yn Gymraeg a Saesoneg gan yr ysgrifenydd.

Gwelir yn y Cenhadwr, Gorphenaf, 1883, gofiant ei frawd, David Jones, a fu farw yn Iowa. Bu y ddau fyw yn bell oddiwrth eu gilydd o ran cyfrwng, ond buont farw yn dra agos o ran amser; ac nid oes genym un amheuaeth nad ydynt wedi cwrdd bellach yn y nefoedd. Yr Arglwydd a fyddo yn dyner wrth y rhai a adewir mewn galar, ac a'n dygo ninau oll i afael â bywyd yn y Mab.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Medi 1883.