MRS. KEY, RACINE, WISCONSIN.
Chwefror 16eg, 1883, yn Racine, Wisconsin, yn 36 mlwydd oed, Mrs. Key, yn dra sydyn o'r gwddfbydriad - ni bu ond ychydig ddyddiau yn sal.Merch ydoedd i John ac Elizabeth Thomas, o Aber, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Pan yn lled ieuanc aeth i wasanaethu i Loegr, ac yno yr ymbriododd â Mr. Key.
Daeth y teulu i'r dref hon tua pedair blynedd yn ôl. Gadawodd briod ac un plentyn i hiraethu ac i alaru ar ei hol.
Dyma ddwy ferch Mr. John Thomas wedi ymadael a'r fuchedd hon o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd. Naturiol yw meddwl ei fod yn teimlo yn ddwfn oddiwrth ei brofedigaeth.
Gweinyddwyd yn y claddedigaeth gan yr ysgrifenydd, a chan y Parch, Mr. Sharp (M. C.)