MRS. ANN OWENS, PIKE GROVE, RACINE, WISCONSIN.
Ionawr 2ail, 1883, yn 47 mlwydd oed er y 12fed o Fawrth diweddaf, Ann Owens, Pike Grove, ger Racine, Wisconsin.Merch ydoedd i Thomas Lewis, Tancoed Isaf. Enw morwynol ei mam ydoedd Ann Humphreys. Nid oedd Llanerchgoediog, mangre genedigaeth Mrs. Owens, yn bell o Graig y Deryn, ac felly yn sir Feirionydd. Pan oedd gwrthrych ein cofiant yn ddwy flwydd oed, collodd ei mam, ac nid oeddl ond wyth oed pan gollodd ei thad, eto arosodd yn Llanerchgoediog nes ydoedd o gylch 14 oed gyda'i naln, pan symudodd i aros at berthynas iddi o'r enw Robert Davles, Caermynach - tyddyn ar fin y mynydd, rhyw filldir a haner o Lanegryn; a dyma ei chartref nes yr ymfudodd i'r wlad hon. Ffordd lechweddog iawn oedd o Lanegryn i Caermynach, eto byddai hi yn y capel yn mhob cwrdd ond y gyfeillach. Clywais hi yn dweyd na fu hi erioed yn eneth wyllt, a phriodolai hyny i'r ffaith ei bod yn amddifad a'r cyfeiriad rhagorol a roddodd ei nain iddi.
Ei hytrydwch oedd trysori gair Duw yn ei chof, a gwrandaw ar weision Duw yn ei bregethu, a mawr oedd ei hawydd er yn blentyn am ymuno â phobl Dduw; ac yn 1859, ie, yn nechreu y flwyddyn hono, ceisiodd le yn nhy Duw, Mai 12fed, yr un flwyddyn, priododd gyda Mr. Thomas Owens, mab y Borthwen, ger Llwyngwril, ac yn mhen tua deg diwrnod symudasant i'r wlad hon, a gwnaethant eu cartref yn Pike Grove. Yn fuan iawn ar ôl symud yma, wele Mrs. Owen yn ymofyn am le yn mysg pobl Dduw yn Pike Grove, a bu yn ffyddlawn hyd angau. Yr oedd yn un o'r gwragedd duwiolaf yn yr holl wlad, a gadawodd dystiolaeth ar ei hol ddarfod issi ryngu bodd Duw.
Yr oedd yn rhyfeddol o hyddysg yn y Beibl, ac yn un o'r athrawesau goreu yn yr ysgol Sabbothol a allesid gael - ni welais ei gwell yr ochr yma na'r ochr arall i'r Werydd. Yr oedd yn byw yn agos i dair milltir oddiwrth y capel, a thrwy fod ei hiechyd wedi gwaethygu ers dros dair blynedd, nid oedd yn gallu bod mor gyson ag arfer yn nhy Dduw, ond clywals hi yn dweyd os oedd yn methu bod gyda ni o ran y corff, ei bod gyda ni yn wastad o ran ei meddwl.
Bu farw a'i llygaid yn gweled iachawdwriaeth Duw. Arferai weddio llawer dros ei pherthynasau a'i chymydogion, a chredai yr atebid ei gweddiau; ac y mae ei geiriau diweddaf wedi deffroi yr holl gymydogaeth. Y mae Thomas Owens, ei phrlod, wedi cael nerth i ymdawelu yn ngwyneb ei hymadawiad. Bu yn dweyd wrthyf ei bod mor ofalus amdano et a'i phlant ag oedd yn bosibl iddi fod; a phan ofynodd iddi a fuasai yn ewyllysio gwella, mai ei hatebiad oedd, "Ewyllys yr Arglwydd a wneler." Yr oedd ei bachgen ieuengaf wedi cyraedd y nef o'i blaen; claddwyd ef pan yn dri mis oed. Pwy â wyr nad yw hi a Hugh bach wedi adwaen eu gilydd cyn hyn.
Gadawodd bedwar o blant ar ôl, sef dau fab a dwy ferch, a gellir dweyd ei bod wedi eu hyfforddi yn mhen y ffordd. Dydd Iau, lonawr 4ydd, ymgynullodd amryw i dalu y gymwynas olaf iddi pryd y gweinyddwyd gan Mr. J. P. Williams, Racine, a'r ysgrifenydd. Ein profiad bob tro yr ymwelsom â hi yn ei chystudd oedd, fod yr adnod fach hono yn eithaf gwir - "Ni frysia yr hwn a gredo."
O mor ddedwydd yw'r cyfeillion,
A adawsant fyd o boen,
Rhai fu'n ffyddlon er bob rhwystrau,
Yn ngwasanaeth Duw a'r Oen;
Ni gawn ddianc o law angau,
Gelyn olaf plentyn Duw,
A rhodiana yn mro goleuni
Yn ngorphwysfa dawel yw.